Mae pôl diweddaraf YouGov yn dangos bod Plaid Cymru wedi disodli Llafur fel y blaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae hyn wrth gwrs yn newyddion cyffrous – gyda’n harweinydd egnïol ac ymroddedig Rhun ap Iorwerth, mae Plaid Cymru yn cynnig ateb amgen i lywodraeth flinedig y Blaid Lafur ym Mae Caerdydd – a llais cryf i ymladd dros fuddiannau Cymru.