Sawl ffordd sydd i ddehongli cerdd epig John Milton (1608-1674), ‘Paradise Lost’?

Dwi wedi bod yn meddwl am hyn wedi imi ddarllen dwy gyfrol fyfyrgar am y gerdd Saesneg dros y Nadolig sef Heaven, Hell & Paradise Lost (2023) gan Ed Simon a What in Me is Dark: The Revolutionary Life of Paradise Lost (2024) gan Orlando Reade.