Pan grëwyd Parc ‘Cenedlaethol’ cyntaf Cymru wedi’r Ail Ryfel Byd, doedd dim angen gofyn pa ‘genedl’ oedd mewn golwg. Wel Prydain wrth gwrs, ac ystyr ymarferol hynny oedd Lloegr.  Nid er budd pobl Eryri y sefydlwyd y Snowdonia National Park ond er lles, iechyd a difyrrwch trigolion conyrbasiynau Lloegr. Cymru yn Barc Hamdden, i’w dad-ddiwydiannu cyn gynted â phosibl. A’r  pryd hynny, doedd difrifoldeb argyfwng byd natur (‘yr amgylchedd’ fel y’i camenwir) a newid hinsawdd ddim wedi gwawri