Mae yna lawer o sôn fod y byd mewn lle peryglus. Efallai fod hynny’n wir, ond nid, bob tro, am y rhesymau sy’n cael eu crybwyll amla’.
Ydi, mae’n siŵr fod Rwsia a China yn fygythiad yn yr ymrafael ddwy-ffordd rhwng y ‘Gorllewin’ a’r gweddill ac mae’r rhyfela digidol (dwy-ffordd) sy’n digwydd trwy’r amser yn ddatblygiad sinistr.