Un o fethiannau llywodraeth Lafur Mark Drakeford oedd methu ag ymladd yn ddigon caled tros hawliau economaidd Cymru ar ôl Brexit.

Er na fydden nhw wedi gallu newid meddwl llywodraeth Geidwadol Llundain, mi ildion nhw rym tros gronfeydd datblygu yn rhy hawdd ac yn rhy dawel.

Y canlyniad oedd bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn aml iawn yn ochrgamu Senedd a Llywodraeth Cymru ac yn llesteirio’r gallu i greu strategaeth gynhwysfawr ac, yn fwy na dim, ei gweithredu.