Ar ddiwedd blwyddyn, mae gan y blogwyr ambell i sylw bachog, byr a allai fod o help ar gyfer yr un nesa’… gan gynnwys weegingerdug.wordpress.com yn yr Alban…

“Efallai mai etholiadau Holyrood yn 2026 fydd y cyfle ola’ i fudiad annibyniaeth yr Alban, fel y mae’n awr… os bydd y pleidiau tros-annibyniaeth yn methu â chael mwyafrif… efallai na chawn ni fyth gyfle arall i sicrhau mwyafrif seneddol, gyda phresenoldeb mileinig Farage ar ochr y llwyfan.”