Mae’r darnau gan artistiaid anhysbys ar werth am £10 yn Oriel Q yn Arberth…
Penderfynodd oriel yn Sir Benfro greu arddangosfa yn cynnig gweithiau celf maint cerdyn post am £10 i godi arian at ddioddefwyr yn Gaza – a chasglu dros £1,000 ar y noson agoriadol.
‘Fault Line: Gaza 355’ yw enw’r arddangosfa arbennig yn Oriel Q Arberth a agorodd ddiwedd mis Tachwedd, ac mae’n dod i ben ddydd Sadwrn.