Bellach mae 560 o “garedigion yr Eisteddfod Genedlaethol” wedi arwyddo ail lythyr yn gofyn pam bod cystadleuaeth Y Fedal Ddrama wedi ei chanslo ar y funud ola’ nôl ym mis Awst… 

Annwyl Llys yr Eisteddfod a’r Orsedd,

Yn dilyn cyfathrebiadau pellach, ‘rydym yn parhau i fod yn gwbl anhapus gyda’r sefyllfa a’r diffyg esboniad digonol, ac yn anghytuno’n chwyrn â’ch gosodiad eich bod “wedi rhoi rheswm dros y penderfyniad”.