Wrth edrych yn ôl ar 2024 i dîm pêl-droed merched Cymru, does dim ond un lle i ddechrau… ar y noson hanesyddol honno yn Nulyn ddechrau’r mis hwn. Pan redodd Carrie Jones yn glir i’n rhoi ni ddwy gôl ar y blaen yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Iwerddon, roedd pawb yn gwybod fod un troed yn yr Ewros. Do, cafwyd chwarter awr o gnoi ewinedd annioddefol ar ôl i’r Gwyddelod dynnu un yn ôl, ond dal arni a wnaeth tîm Rhian Wilkinson i sicrhau eu lle yn Y S