Mae llyfr newydd yn trafod y cyfoeth o emynau sydd gan y Cymry…

I awdur y gyfrol Poems from the Soul, yr Athro M Wynn Thomas, mae emynau yn un o ryfeddodau Cymru. Ac nid yw ar ei ben ei hun yn y gred honno. Ers canrif a mwy mae cannoedd ar gannoedd o emynau wedi bwydo addoli ymhob cornel o Gymru. Mae nifer o’r hen ffefrynnau i’w clywed ar derasau rygbi ac yn y dafarn. Mae gan y cerddi ysbrydol yma rôl ym mharhâd ein hiaith hefyd. Gyda chymaint o emynau wedi eu hysgrifennu a’u dylanwad mor sylweddol, sut oedd dewis dim ond dwsin i ddweud eu stori?

“Y man cychwyn yw ystyried mai cyfrol boblogaidd yw hon,” eglura M Wynn Thomas.

“Rhaid ystyried yr addolwyr, y ffyddloniaid sy’n fwy na chyfarwydd â’u llyfr emynau. Ond nid ar gyfer y garfan honno mae’r gyfrol yma. Y bwriad oedd cyflwyno enghreifftiau o gyfoeth ein hemynau i bobol sydd y tu hwnt i’r garfan gapelog. Ein hemynau wedi’r cyfan yw un o’n trysorau diwylliannol mwya’ ni fel Cymry a dylwn eu cyflwyno i gynulleidfa mor eang â phosib.”

Mae’r emynau yn y gyfrol yn rhychwantu’r ddeunawfed ganrif hyd at heddiw, yn cynnwys lleisiau benywaidd ac yn osgoi diwinydda – hynny’n unol â bwriad yr awdur i’w gwneud yn gyfrol eang ei hapêl. Ac mae M Wynn Thomas yn awyddus i bwysleisio fodd bynnag, mai nid dyma ddeuddeg emyn gorau Cymru.

“Na, dim o gwbwl! Sampl yn unig yw’r rhain o’n hemynyddiaeth ni. Ffordd i gyflwyno’r traddodiad ar ei ore. A hefyd roedd yn rhaid bod modd eu cyfieithu i’r Saesneg. Dw i wedi gwneud hynny gorau y gallwn.”

Mae M Wynn Thomas yn credu bod emynau yn crynhoi profiadau personol pobl os ydyn nhw’n mynd i le o addoliad neu beidio. Dyna sy’n uno’r rhai sy’n eu canu y tu fewn neu’r tu allan i bedair wal capel.

“Mae emynau fel telynegion ysbrydol sydd wedi codi o brofiadau penodol unigolion sydd wedi dewis croniclo’r profiadau hynny. Mae yna dinc cyffesol iddyn nhw. Llais yr unigolyn, sy’n eu gwneud yn fynegiant personol iawn ar ran yr awduron. Mae hynny’n arbennig o wir am emynau Ann Griffiths. Doedd ganddi hi ddim diddordeb i rannu ei gwaith gyda neb ond hi eu hunan. Mynegi ei hangerdd ei hunan a’i gweledigaeth ei hunan oedd ei bwriad hi ac nid rhannu ffrwyth y mynegiant hwnnw o reidrwydd. Nid dyna fel y bu wrth gwrs. Ond mae ei hemynau hi, fel rhai emynwyr eraill, yn baradocsaidd ddigon, yn rhai personol sy’n troi’n fynegiant torfol pan ddaw yn fater o’u cyd-ganu.”

Gwahanol iawn oedd bwriad a’r defnydd o emynau gan William Williams Pantycelyn. Fe ddaeth ei delynegion ysbrydol yntau o brofiad personol, heb os, ond roedd am eu rhannu a’u defnyddio i genhadu.

“Dyna chi baradocs arall,” meddai M Wyn Thomas.

“Mae yna elfen gref o’r cymdeithasol yn ein hemynau hefyd. Dyna fwriad Pantycelyn, er enghraifft, neu falle’r cenhadol yn fwy na’r cymdeithasol yn ei achos e. Roedd yn efengylwr ac felly am groniclo ei brofiadau ysbrydol yntau mewn emyn gyda’r bwriad o’u rhannu gydag eraill, er mwyn eu cyffwrdd â’u heneidiau a’u denu at y ffydd Gristnogol drwy ganu cyhoeddus. Roedd y Methodistiaid yn benodol yn credu yng ngwedd gymdeithasol yr emyn, yn fwy na’r Annibynwyr. Roedd rhannu profiadau personol gydag eraill yn fodd i gyfoethogi profiadau pawb.

“Ond mae elfen arall i ddylanwad cymdeithasol emyn sy’n mynd â ni nôl i Oes Fictoria [1820-1914]. Dyna pryd y dechreuodd canu, a’r emyn yn rhan gwbl ganolog o hynny, droi’n fynegiant i ni’r Cymry i ddangos pwy oedden ni, yn enwedig y tu fas i’n gwlad. Roedd yn fodd i brofi ein bod yn ddiwylliedig. Yn wyneb Brad y Llyfrau Gleision a’i debyg, roedd canu’n ffordd i ni fynegi ein hunaniaeth a dyna chi ddyddiau datblygiad y corau meibion a’r cymanfaoedd canu yn ogystal â’r emyn a gafodd ei llyncu i duedd ehangach ‘Gwlad y Gân’.”

Diogelu’r iaith

Effaith pellach y duedd honno yn ôl M Wynn Thomas, oedd rôl yr emyn i ddiogelu’r iaith Gymraeg yn Oes Fictoria. Roedd aelodau capeli llawr gwlad, yn dorfol felly, yn canu’r iaith, mewn modd ysbrydol bersonol, o Sul i Sul ac yn ystod yr wythnos hefyd.

“Y capeli oedd eglwys genedlaethol Cymru yn y degawdau hynny, ac felly’n gallu bod yn ddylanwad eang, yn enwedig wrth i Gristnogaeth ddatblygu’n fyw sefydliadol drwy ein henwadau.”

Cyfeiria’r awdur at bregethwyr dylanwadol Cymru fel y ‘poster boys’; dynion – heb eithriad wrth gwrs – a oedd â dylanwad amlwg ar eu cynulleidfaoedd. Dynion addysgedig a oedd yn unigolion cyhoeddus yn aml gyda dilyniant a dylanwad torfol. Gwahanol iawn oedd cefndir awduron yr emynau a ganwyd yng nghynulleidfaoedd y gweinidogion hynny.

“Pobol gyffredin oedd y rhain ar y cyfan, yn aml heb addysg. Y gof yn y pentre, y wraig ffarm, y ffermwr, y gweithiwr diwydiant trwm. Maen nhw’n wrthgyferbyniad amlwg gyda’r gweinidog yn y pulpud. MaE hyn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r pwynt am nodwedd bersonol yr emynau.

“A’r geiriau roedd y bobol yma’n ysgrifennu wrth gwrs. Mae hynny’n bwynt arall yn fy ystyriaeth i wrth ddewis y deuddeg emyn i’r gyfrol. Roedd yn rhaid bod yr emynau yn gallu sefyll ar eu pennau eu hunain. Hynny yw, heb diwn. Mae’n werth cofio bod y Piwritaniaid yn ein treftadaeth Gristnogol, nôl sbel cyn Oes Fictoria wrth gwrs, ddim yn canu emynau. “Mae’n siŵr iddyn nhw ragweld yr hyn sydd wedi digwydd, sef y byddai’r dôn yn troi’n bwysicach na geiriau’r emyn. Er fy mod yn nodi’r tonau sydd yn cael eu defnyddio gyda’r emynau dw i wedi eu dewis, y geiriau’n unig sydd yn y gyfrol. Dw i’n credu bod hynny’n bwysig. Y geiriau ddaw gyntaf.”

Ydyw e’n deg felly, i alw’r emynau yma, y geiriau wedi eu crefftio i’w ffurf, yn farddoniaeth, fel y mae teitl y gyfrol yn honni?

“Efallai ei fod yn wir dweud mai nid fy newis i oedd y teitl,” meddai M Wynn Thomas. “Roedd y wasg yn credu ei fod yn gweithio’n well na’r teitl oedd gen i mewn meddwl, sef Laboratories of the Spirit – geiriau wedi eu dwyn o RS Thomas. Ond dw i’n derbyn arweiniad y wasg. Does gen i ddim amheuaeth fodd bynnag, ei fod yn berffaith dderbyniol i alw emyn yn farddoniaeth, fel mae’r teitl yn gwneud. Pam lai? Maen nhw’n gerddi i’r enaid, yn genre o fewn traddodiad ehangach o ganu – canu barddonol a chanu cerddorol yn yr achos yma. O ganlyniad, mae yna rywbeth fformiwleic ynglŷn â nhw. Ond mae hynny’n anorfod, yn unol â gofynion y genre, fel pob genre arall. Mae’r ffaith eu bod yn cael eu cyd-ganu yn golygu bod yn rhaid rhannu iaith, cyfeiriadaeth a delwedd a oedd yn gyffredin ac yn ddealladwy.

“Mae ystyried emyn fel un mynegiant o draddodiad ehangach yn sicrhau nad ydyn ni’n ynysu’r emyn hefyd. Mae’n eu cysylltu gyda ffyrdd eraill o fynegi’r profiad dynol dw i wedi cyfeirio ato’n gynharach, ffurfiau eraill ar farddoniaeth sydd yn gwneud yr un peth. Dyna pam mae’r teitl yn un da. Poems from the Soul, nid Hymns from the Soul.”

Darluniau trawiadol

Dywed M Wynn Thomas i’r deuddeg emyn ddod ato’n gymharol rwydd, unwaith iddo setlo ar bwrpas ei gyfrol. Dyw e ddim yn honni bod pob un yn ‘emyn fawr’. Ond mae’n nodi mai’r emynau sydd yn dal grym y tu allan i waliau capel, ymhlith darllenwyr targed ei gyfrol, yw’r rhai traddodiadol.

“Mae’n amlwg bod y tiwn yn troi’n berthnasol wrth ystyried yr apêl ehangach, ond eto’i gyd dw i’n credu bod mwy iddo na hynny. Mae’n amlwg fod yna ymdeimlad bod perthnasedd, rhyw ymdeimlad, i’r geiriau sy’n golygu bod yr emynau’n goroesi. Ma’r emyn yn gyfrwng i dapo mewn i ddiwylliant sydd wedi ei golli – ‘Cwm Rhondda’, er enghraifft. A dim ond ni’r Cymry sy’n gallu canu’r emyn yna yn y fath fodd angerddol. A dim ond y Saeson sy’n gallu canu ‘Abide with Me’ – dyna chi agwedd arall o’r ffordd mae emyn yn fynegiant hunaniaeth cenedlaethol.”

Fel yn nwy o gyfrolau blaenorol gan M Wynn Thomas – The History of Wales in 12 Poems a Map of Love – mae’r gyfrol Poems of the Soul yn cynnwys darluniadau perthnasol a thrawiadol gan Ruth Jên Evans. Mae’r rhain yn cynnig dehongliad gweledol, trawiadol o naratif geiriol yr awdur. Maen nhw’n gyfrwng, yn yr achos yma, i gymryd munud i feddwl tra’n darllen geiriau’r emynau a’u perthnasedd cymdeithasol, ysbrydol a diwylliannol i ni’r Cymry. Maen nhw’n ein cymryd yn ôl at y personol sydd wrth wraidd y casgliad yma o gerddi i’r enaid.

A chyn gadael M Wynn Thomas, roedd yn rhaid gofyn un cwestiwn ola’. Pa emyn yw ei hoff emyn yntau?

“Mae hynny’n hawdd i’w ateb. ‘Dyma Gariad fel y Moroedd’. Ac Amen i hynny!”