Cerdd at y Calan gan Gwynfor Dafydd, Prifardd Coronog Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024

 

2025

Mae’n gyfnod newydd eto,

fel ag y bu o’r blaen,

y byd yn dechrau danto,

hen bryd cael symud ’mlaen

i weld beth tybed sydd i ddod

yn nhro’r blynyddoedd, rhuthr y rhod.

 

Ond wedyn, yn yr ennyd

rhwng dawns a dweud ffarwél,

cyn camu i’r newyddfyd,

arafwch am ryw sbel

cans pan ddaw fory eto’n ôl,