Stori fer gan Eurgain Haf – enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024…
Mae goleuade caffi’r Gatto Lounge ar lan yr afon ym Mhontypridd yn galw. Yn estyn gwahoddiad. Taflu cysgodion gwan dros y parc gyferbyn, sy’n dal i gydio yn yr atgofion o haf pan oedd y coed yn gadwyn o lewyrch tylwyth teg, y baneri’n cyhwfan, a seiniau croeso cynnes yn atseinio llond y lle gan orlifo i mewn i’r dre.