Eleni fe gawson ni dri Phrif Weinidog gwahanol yma yng Nghymru, ac etholiadau yng ngwledydd Prydain ac America…
Ym mlwyddyn dathlu chwarter canrif ers sefydlu Senedd Cymru, mae Mark Drakeford, Vaughan Gething ac Eluned Morgan oll wedi camu i’r siambr yn ‘sgidiau’r Prif Weinidog.
Ac yn fwyaf diweddar mae Darren Millar wedi disodli Andrew RT Davies yn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.