Fe gafodd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi yn y Senedd ddydd Mawrth…

Bu’r cyn-Brif Weinidog sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft ar gyfer gwariant ar wasanaethau cyhoeddus o fis Ebrill nesaf ymlaen.

Bydd £1.5 biliwn ychwanegol ar gael wrth i’r gyllideb dyfu i £26 biliwn, ac mae Mark Drakeford yn addo gwell yfory.