Nia Jeffreys yw’r ddynes gyntaf i gael ei hethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd, a hynny ar adeg gythryblus gyda chwmwl du uwchben y cyngor sir sy’n cael ei redeg gan Blaid Cymru…
Am y tro cyntaf yn ei hanes, mae Cyngor Gwynedd wedi dewis merch i yrru’r drol.
Fe gafodd Nia Jeffreys ei hethol yn arweinydd parhaol yr wythnos ddiwethaf ar ôl cyfnod fel arweinydd dros dro yn dilyn ymddiswyddiad Dyfrig Siencyn ym mis Hydref.