Pan ddaw’r flwyddyn newydd, fydd hi fawr o dro nes y bydd etholiadau’r Senedd ar ei newydd wedd ar y gorwel; etholiad a allai weddnewid tirlun gwleidyddol Cymru. Awn i ddim cyn belled â dweud bod Plaid Cymru mewn sefyllfa gref i’w ennill er gwaetha pôl Barn Cymru’n eu gosod ar y brig o 1%, ond yn hytrach dywedwn fod ganddi gyfle. Ond os am wneud sioe dda, rhaid iddi ddechrau meddwl o ddifri am sut y bydd hi’n ymgyrchu, a llunio neges glir, bwerus, hyd yn oed os ydi’r etholiad dros flwyddyn i ffw