Prin iawn erbyn hyn ydi’r corneli o’r rhyngrwyd sy’n llefydd braf i ymgolli ynddynt. Llwyddodd Elon Musk i droi X yn bydew, er i’r pydredd ddechrau cyn hynny. Fe lwyddodd, o bosib, i brynu etholiad drwyddo. Er i nifer y cyfrifon leihau’n arw ers ei berchnogaeth arno, mae dylanwad cyfryngau cymdeithasol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i wefan neu app.