Wrth fynd ati i sgwennu’r golofn hon rwy’n teimlo fel pob ystrydeb o ‘berson sy’n dechrau blwyddyn newydd’… fis Ionawr yma, am y tro cyntaf yn fy mywyd, rydw i wedi dod yn aelod o gym. Nawr, mae yn rhaid i mi bwysleisio hyn; dydw i ERIOED, yn fy 34 mlynedd o fod ar y blaned hon, ERIOED wedi bod i’r gampfa o’r blaen. Yn ystod yr haf tra yn ysgrifennu fy nhraethawd olaf ar gyfer fy MA, roedd Mam yn mynnu bob bore Gwener ein bod ni’n mynd i wersi ‘sbin’ yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth.