Un o reolau cysylltiadau cyhoeddus, medden nhw, ydi peidio â gadael i broblemau rygnu ymlaen.

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi torri’r rheol honno yn y gobaith, mae’n debyg, y byddai pawb yn cael llond bol ac yn anghofio am helynt dileu cystadleuaeth Medal Ddrama 2024.

Wnaeth hynny ddim digwydd a’r rheswm ydi fod llawer mwy yn y fantol na chanlyniad cystadleuaeth a cham i gystadleuydd teilwng.