Lled gywir fu darogan y dyn tywydd i Rachub fore Sul. Rydyn ni wedi deffro i lain wen o eira, ond ddim byd tebyg i’r amodau stormus a addawyd. Mae ei ddarogan yntau’n aml yn seiliedig ar y “rhag ofn”: byddwch yn barod amdani. Felly hefyd sylwebwyr gwleidyddol. Y demtasiwn wedi llynedd gythryblus ydi darogan tymestl yn 2025, ond dwi’n amau mai mwy o rybudd am rew du ar y ffyrdd fydd hi nag eira’n eu cau.