Am y tro dyma ni allan o’r cyfnod o ddathliadau. Dolig. Flwyddyn Newydd. Addewidion. Tan y nesa, sef Dydd Santes Dwynwen. Wedyn cawn edrych ymlaen at Ddydd Miwsig Cymru a Dydd Gŵyl Ddewi. I mi, y diwrnod pwysig yw 21 Rhagfyr. Nid am ei fod y diwrnod byrraf, ond am fod y dyddiau yn ymestyn o’r 22ain ymlaen.