Mae dyn mwyaf cyfoethog y byd yn ymwneud mwy â gwleidyddiaeth ym Mhrydain nag yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd.
A thra bod Keir Starmer yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r feirniadaeth ffyrnig, nid yw Nigel Farage yn cael ei eithrio chwaith…
Dim ond ryw bythefnos ers tynnu’r llun enwog o Elon Musk a Nigel Farage ysgwydd wrth ysgwydd ac yn gwenu fel giatiau, mae’r berthynas wedi taro’r creigiau.