Yn aml dydi achos o saethu yn Unol Daleithiau America ddim yn rhywbeth mawr sydd yn y penawdau, ond nid felly gydag achos Luigi Mangione, y dyn sydd wedi’i gyhuddo o saethu Brian Thompson. Roedd Thompson, dyn 50 oed sy’n gadael ar ei ôl wraig a dau blentyn, yn Brif Swyddog Gweithredol y grŵp yswiriant iechyd UnitedHealthcare, ac amcangyfrifir fod ei werth yn $43m (tua £34m).