Mae cannoedd wedi arwyddo llythyr agored at Gyngor a Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, yn gofyn pam bod cystadleuaeth Y Fedal Ddrama wedi ei chanslo ar y funud ola’ nôl ym mis Awst…

Annwyl Gyd-Eisteddfodwyr,

Yn sgil yr helynt a fu a’r penderfyniadau a wnaed ynghylch cystadleuaeth Y Fedal Ddrama eleni [Rhondda Cynon Taf 2024], ‘rydym yn parhau i fod yn anhapus iawn gyda’r diffyg ymateb, eglurhad a thrafodaeth lawn, ynghylch y mater.

Yn eich datganiad [13 Awst 2024], nodwyd gennych “Rydyn ni’n cytuno bod angen sgwrs am yr hyn sydd wedi codi eleni, fel rhan o’r gystadleuaeth ei hun, ynghyd â’r sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd sydd wedi’u gwyntyllu drwy’r wasg a’r cyfryngau dros y dyddiau diwethaf. Rydyn ni’n fodlon iawn i arwain y drafodaeth ar y cyd gyda’r sector yn yr hydref”.

A hithau bellach ar gychwyn mis Rhagfyr, yr unig ddigwyddiad a drefnwyd gennych oedd y “Symposiwm Rhithiol” rhannol gyfrinachol, ynghylch “Cynrychioli Cynrychiolaeth” lle na ddatgelwyd pwy oedd yn rhan o’r gynulleidfa. O’r ddwy awr o drafodaeth rhwng y Panel a ddewiswyd gennych, dim ond y 15 munud olaf a 3 cwestiwn a gafwyd gan y gynulleidfa, a rheiny wedi’u teipio yn y blwch cwestiynau. Nid oedd modd gwneud sylw nac ymateb i’r 100 munud arall, na’r hyn oedd yn cael ei ddweud ar y pryd, gan fod y blwch sylwadau wedi’i gyfyngu gennych. Cydymdeimlwn fod gan bawb deimladau cryfion iawn,  a bod gofyn osgoi unrhyw faterion cyfreithiol posib, ond pam na ellid fod wedi cymedroli’r sylwadau, cyn eu cyhoeddi?

Roeddem yn teimlo bod hyn yn annheg iawn a ddim yn “sgwrs” deilwng i drafod yr hyn a ddigwyddodd, na’r gystadleuaeth ei hun” na’r “sylwadau a’r dyfaliadau diddiwedd sydd wedi’u gwyntyllu”. Os am gynnal Symposiwm, oni ddylai’r “sgwrs” fod yn gwbl agored i bawb ofyn cwestiynau a thrafod pob pwynt?

Yn ystod y Symposiwm, y cyngor a roddwyd oedd bod gofyn am fwy o “ymchwil” gan y dramodwyr, a cheisio cyngor a thrafodaeth gan gynrychiolwyr o’r “gymuned” sy’n cael ei drafod neu [yn eich geiriau chi] “y gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli”. Ac eto, nodwyd a rhoddwyd sawl enghraifft mai dyna’r broses arferol a disgwyliedig ymhob ystafell ymarfer wrth baratoi ar gyfer llwyfannu gwaith theatrig. Pan ddaw’r actorion at ei gilydd gydag arbenigwyr o ba bynnag gefndir sydd ei angen, i drafod cynnwys y ddrama, i awgrymu gwelliannau a phrofiadau. Annheg a chwbl amhosib ydi disgwyl i unrhyw ddramodydd, na llenor na bardd i gynnwys barn pob aelod o’r “gymuned” maent “yn honni ei chynrychioli”. Onid yw’r Rhyfel yn Gaza yn brawf pendant o hynny, gan nad yr un yw’r farn, safbwynt a dealltwriaeth gan bob Iddew? Nodwyd hynny gan eich Panel gyda’r ddau aelod o “liw” yn datgan efallai na chytunai’r ddau ar yr un materion. Nodwyd dro ar ôl tro, mai meidrol ydi’r rhan helaeth o gymeriadau, waeth beth fo eu rhywedd, hil, tras, lliw, crefydd na’u hetifeddiaeth.

Mae’r modd y bu i’r Eisteddfod ymateb i’r hyn ddigwyddodd eleni yn tanseilio holl seiliau pob cystadleuaeth lenyddol yn yr Ŵyl. Dyna pam bod cynifer ohonom yn parhau i fod yn anhapus. Fe ddewiswyd y ddrama fuddugol eleni gan y beirniaid ar y sail bod yma “lais cyffrous ac yn safbwynt ffresh a newydd i theatr yng Nghymru.” Doedd gan y beirniaid ar y pryd ddim syniad pwy oedd y dramodydd, a dyna fel y dylai fod. Yn deg â phawb, heb fod angen “gwarchod” neb. Cystadlu o dan ffugenw ac yn y dirgel yw holl gynsail sylfaenol y patrwm eisteddfodol hynafol. Fel y nodwyd yn eich Rheolau ac Amodau Cyffredinol o dan “Cyfrinachedd: Rhaid i bob cyfansoddiad nodi rhif a theitl y gystadleuaeth a ffugenw’r cystadleuydd yn unig gan ymdrechu i ddileu neu guddio unrhyw fanylion fyddai’n datgelu manylion y cystadleuydd“.

Mae’n amlwg felly bod y ddrama fuddugol yn deilwng ar ei chryfder llenyddol a theatrig. Nid lle na chyfrifoldeb unrhyw un arall [heblaw am y beirniad] oedd cwestiynu’r deunydd, cyn i’r dramodydd gael y cyfle i’w gosod yn nwylo’r actorion. Yn yr ystafell ymarfer mae cwestiynu’r dweud a’r safbwyntiau. Dyna’r patrwm ym Myd y Theatr. Allwch chi ddim disgwyl i bob beirniad llenyddol fod yn arbenigwr ar bob “gymuned” meidrol. Mae hynny yn amhosib. Ar bob cyfrif, dewiswch feirniaid o “gymunedau” gwahanol, ond petaech yn cynnwys degau o unigolion, go brin y byddai pawb yn cytuno a’i gilydd.

Rhaid ichi gyfaddef bod eich dewisiadau eleni wedi agor nyth cacwn peryglus a phryderus. Ni ddylid datgelu pwy, nac o ba rywedd, hil, tras, lliw, crefydd nac etifeddiaeth yw’r enillydd, tan y Seremoni. Os ydi’r gwaith llenyddol yn deilwng o ennill ym marn y beirniaid, yna dylid ei wobrwyo, waeth pwy yw’r enillydd. Nid cyfrifoldeb yr Eisteddfod nac unrhyw unigolyn creadigol arall yw cwestiynu’r gwaith buddugol, ar sail rhywedd, hil, lliw, crefydd nac etifeddiaeth yr awdur. Mae hynny yn groes i bob egwyddor sylfaenol ac yn gallu cael ei weld a’i ystyried, fel hiliaeth.

Annheg hefyd oedd disgwyl i’r Panel drafod yr hyn a ddigwyddodd yng nghyd-destun y gystadleuaeth benodol yma eleni, heb [yn ôl eu cyfaddefiadau] wybod yn iawn, [fel pawb arall], beth ddigwyddodd. Y neges barhaol a gafwyd oedd bod “angen gwarchod” – ond gwarchod pwy mewn gwirionedd? Beth am eich cyfrifoldeb i warchod yr holl gystadleuwyr eraill eleni, ac yn y dyfodol? Darpar gystadleuwyr sydd yn parhau i fod yn ansicr ac anwybodus ynghylch beth oedd y drosedd lenyddol a gyflawnwyd eleni, trosedd oedd yn cyfiawnhau dileu’r holl gystadleuaeth?

Rydym felly yn erfyn am DRAFODAETH agored gan aelodau o’r Cyngor a’r “Paneli” fu’n cynghori, am eglurhad mwy cynhwysfawr, am gyhoeddi’r feirniadaeth WREIDDIOL YN LLAWN, a’r rhesymeg dros y penderfyniadau a wnaed, fel bo modd osgoi sefyllfa o’r fath rhag codi eto.

Yn gywir,

  1. Janet Aethwy (aelod o bwyllgor ymgynghorol yr Eisteddfod Genedlaethol),
  2. Jen Angharad,
  3. Llio Angharad,
  4. Catrin Alun,
  5. Llio Alun,
  6. Martha Alun,
  7. Sian Astley,
  8. Iwan Bala,
  9. Rhiain Bebb,
  10. Elen Bowman,
  11. Linda Brown,
  12. Eleanor Burnham (cyn A.C),
  13. Anita Butler,
  14. Rhian Cadwaladr,
  15. Branwen Cennard,
  16. Sera Cracroft,
  17. Cwmni Drama Llwyndyrus,
  18. Geraint Cynan,
  19. Lowri Cynan,
  20. Gwenno Dafydd,
  21. Ifan Huw Dafydd,
  22. Rhïan Dafydd,
  23. Dennis Davies,
  24. Elin Davies,
  25. Dr Lyn Davies,
  26. Rhian Davies,
  27. Amelia Davies,
  28. Siobhan Davies,
  29. Yr Athro Emerita Wini Davies,
  30. Catrin Lewis Defis,
  31. Bethan Dwyfor,
  32. Manon Eames,
  33. Eirian Edmund,
  34. Carys Edwards (aelod o bwyllgor ymgynghorol yr Eisteddfod Genedlaethol),
  35. Cenwyn Edwards,
  36. Dyfed Edwards (cyn enillydd Y Fedal / Tlws y Ddrama),
  37. Gwenda Mai Edwards,
  38. Huw Meirion Edwards,
  39. Jane Edwards,
  40. Lilian Edwards,
  41. Meinir Wyn Edwards,
  42. Yr Athro Emerita Menna Elfyn,
  43. Alun Elidyr,
  44. Manon Elis
  45. Y Prif Lenor Meg Elis,
  46. Dr Elin Ellis,
  47. Gwen Ellis,
  48. Dafydd Emyr,
  49. Sara Erddig,
  50. Huw Erith,
  51. Marged Esli,
  52. Dathyl Evans,
  53. Grey Evans,
  54. Gwyneth Evans,
  55. Lowri Evans,
  56. Menai Evans,
  57. Nia Evans,
  58. Rhian Mair Evans,
  59. Rhidian Evans,
  60. Sian Evans,
  61. Bryn Fôn,
  62. Iestyn Garlick,
  63. Beti George,
  64. Nia Mair George,
  65. Menna George,
  66. Llinos Gerallt,
  67. Manon Emyr Gerallt,
  68. Ailinn Gilroy,
  69. Y Prif Lenor Annes Glynn,
  70. Sioned Glyn,
  71. Anna Gruffydd,
  72. Heini Gruffudd,
  73. Angharad Griffith,
  74. Eilir Owen Griffiths,
  75. Geraint Griffiths,
  76. Heledd Griffiths
  77. Paul Griffiths,
  78. Heddyr Gregory,
  79. Carys Gwilym,
  80. Ceinwen Gwilym,
  81. Ellen ap Gwynn,
  82. Sian ap Gwynfor,
  83. William Gwyn,
  84. Aled Hall,
  85. Linda’r Hafod,
  86. Tegwen Harri,
  87. Elin Hefin,
  88. Arwyn Herald,
  89. Rhisiart Hincks,
  90. Alwyn ap Huw,
  91. Arfon Hughes,
  92. Caren Hughes,
  93. Catrin Jones Hughes,
  94. Robyn Gruffydd Hughes,
  95. Brenda Huws,
  96. Gwenno Huws,
  97. Martin Huws,
  98. Ann Holland,
  99. Lowri Hywel,
  100. Angharad Mai Jones,
  101. Alun Ffred Jones (cyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen a chyn A.C),
  102. Anthony Jones,
  103. Catrin Aeron Williams-Jones,
  104. Delyth Jones,
  105. Diane Jones,
  106. Edward Howell Jones,
  107. Gwynedd Huws Jones,
  108. Gwyn Vaughan Jones,
  109. Lorna Jones,
  110. Lyn Jones,
  111. Llifon Jones,
  112. Llywelyn Moules Jones,
  113. Marred Glynn Jones,
  114. Siân O Jones,
  115. Siwan Jones,
  116. Meinir Pierce Jones (cyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen),
  117. Menna Medi Jones,
  118. Tudur Huws Jones,
  119. Wyn Bowen Harries, (wedi datgan ei fod wedi cystadlu am y Fedal Ddrama eleni),
  120. Lisbeth McLean,
  121. Eirian Wyn Lewis,
  122. Dafydd Morgan Lewis,
  123. Dr Gwyneth Lewis,
  124. Mared Lewis,
  125. Menna Lewis,
  126. Beth Lloyd
  127. Ceren Lloyd,
  128. Dafydd Rhys Lloyd,
  129. Ian Lloyd,
  130. Iestyn Lloyd,
  131. Nia Marshall Lloyd,
  132. Nerys Llew,
  133. Llyfrau Melin Papur,
  134. Meirion Llywelyn,
  135. Y Prifardd Alan Llwyd,
  136. Rhian Mair,
  137. Sian Teleri Bryn Mawr,
  138. Olwen Medi,
  139. Yr Athro Derec Llwyd Morgan,
  140. Elin Llwyd Morgan,
  141. Richard Huw Morgan,
  142. Sharon Morgan,
  143. Eleri Llewelyn Morris,
  144. Rhian Cari Morris,
  145. Trefor Jones-Morris,
  146. Sharon Morus,
  147. Anita Myfanwy,
  148. Lleucu Non,
  149. Sian Northey,
  150. Y Prifardd Robin Llwyd ab Owain,
  151. Arwel Ellis Owen,
  152. Derec Owen,
  153. Einir Wyn Owen,
  154. Heledd Owen,
  155. Helen Mai Owen,
  156. Jackie Owen,
  157. Mari Rhian Owen,
  158. Megan Owen,
  159. Rosslyn Owen
  160. Tecwyn Owen,
  161. Ian Parri,
  162. Fiona Wyn Parry,
  163. Meinir Jones Parry,
  164. Sian Parry,
  165. Eiry Palfrey,
  166. Daf Palfrey,
  167. Pam Palmer (cyn enillydd Y Fedal / Tlws y Ddrama),
  168. Sion Pennant (aelod o bwyllgor ymgynghorol yr Eisteddfod Genedlaethol),
  169. Dr Adam Pearce,
  170. Delyth Morgan Phillips,
  171. Ifan Erwyn Pleming,
  172. Mici Plwm,
  173. Nia Mair Watkin Powell,
  174. Gaynor Morgan Rees,
  175. Ieuan Rhys,
  176. Lowri-Ann Richards,
  177. Esyllt Nest Roberts,
  178. Berwyn Rowlands,
  179. Gwendoline Roberts,
  180. Nia Roberts,
  181. Siân Eleri Roberts,
  182. Wyn Roberts,
  183. Gareth Rowlands,
  184. Nans Rowlands,
  185. Emlyn Gomer Roberts,
  186. Bethan Roberts,
  187. Megan Jones Roberts,
  188. Rebecca Roberts,
  189. Rhian Roberts,
  190. Huw Rowlands,
  191. Dr Ian Rowlands,
  192. Gemma Rush,
  193. Beti Rhys,
  194. Dylan Rhys (wedi datgan ei fod wedi cystadlu am y Fedal Ddrama eleni),
  195. Robert Rhys,
  196. Tim Saunders,
  197. Mei Seach,
  198. Elliw Siân,
  199. Gwerfyl Siân,
  200. Dr Llinos Haf Spencer,
  201. Rhys ap Tegwyn,
  202. Heiddwen Tomos (cyn enillydd Y Fedal / Tlws y Ddrama),
  203. Rhian Tomos,
  204. Jams Thomas,
  205. Linda Thomas,
  206. Meinir Ann Thomas,
  207. Dafydd Trefor,
  208. Nia Wyn Tudor,
  209. Dr Jeremy Turner,
  210. Carys Vaughan,
  211. Y Prifardd Aled Jones Williams (cyn enillydd Y Fedal / Tlws y Ddrama),
  212. Dr Catrin Elis Williams,
  213. Y Prifardd Cen Williams,
  214. Yr Athro Daniel Gwydion Williams,
  215. David Gareth Williams,
  216. Denise Williams,
  217. Derwyn Williams,
  218. Dwyryd Williams,
  219. Eurwyn Williams,
  220. J A Williams,
  221. John Dilwyn Williams,
  222. Lowri Mai Williams,
  223. Pauline Williams,
  224. R M Williams,
  225. Dr Sera Moore Williams,
  226. Sian Mair Williams,
  227. Sioned Williams,
  228. Ynyr Williams,
  229. Manon Vaughan Wilkinson,
  230. Malan Wilkinson,
  231. Medi Wilkinson,
  232. Glyn Wise,
  233. Arfon Wyn,
  234. Robert Wyn,
  235. Emyr Young,
  236. Sonny Young.
  237. John Ogwen
  238. Robat Gruffudd (cyn-enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen)
  239. Maureen Rhys