Mae gan y Welsh Whisperer senglau, llyfr a phodlediad newydd sy’n brawf ei fod mor brysur ag erioed…

Yn adnabyddus am ei fwstash a’i gap cneifio, mae’r Welsh Whisperer wedi bod yn diddanu torfeydd yma yng Nghymru a thu hwnt ers bron i ddegawd bellach.

Mae ei waith diweddaraf yn cynnwys cyhoeddi dwy sengl ‘Canu Mewn Cae’ a ‘Love’s Gonna Live Here’ fel rhan o gyfres o ganeuon y mae’n eu rhyddhau dros y misoedd nesaf.