Mae TeiFi yn artist sydd wastad wedi cael ei denu tuag at y byd theatr a pherfformio, ac yn awyddus i atgoffa pobol fod yna doreth o ieithoedd yn cael eu siarad yng Nghymru.

Ers iddi gynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer ei sioe un ddynes, Wild, tua degawd yn ôl, roedd yn gweld ei hun yn dangos mwy a mwy o ddiddordeb yn y diwydiant cerddorol.