Mae artist o’r gogledd eisiau i’w lluniau ddangos “bod angen i ni fod yn fwy o gymuned ac edrych ar ôl ein gilydd”…

Mae cyn-feddyg teulu wedi troi’n ôl at gelf ar ôl cael cyfnod caled.

Ar ôl derbyn diagnosis o Parkinson’s yn ei 30au hwyr a cholli’i chwaer yn sydyn, teimlodd Louise Morgan awydd cryf i ddechrau peintio eto.