Wedi cyfnod o 15 mlynedd yn gaeth i alcohol, mae’r bildar 50 oed o Bwllheli wedi sefydlu grŵp Caffi’r Ogia sy’n cyfarfod yn wythnosol dros baned ac yn gyfle i rannu pryderon a chadw’n heini.
Yn sobor ers bron i ddeng mlynedd bellach, mae wedi ymgartrefu ym Morfa Nefyn, yn rhedeg ultra marathons ac yn fwy na pharod i gefnogi unrhyw un sy’n wynebu sefyllfaoedd sy’n gyfarwydd iawn iddo…