Mae’r gantores ar daith gyda band yn llawn dop o ferched o Gymru, ac yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg i filoedd ar ei rhaglen ar Radio Wales a’i chyfrif Tik-tok…

Mae gan y gantores Bronwen Lewis fisoedd llawn bwrlwm o’i blaen ar ddechrau’r flwyddyn, rhwng perfformio’i thaith fwyaf hyd yn hyn, rhyddhau albwm a rhoi cerddorion eraill ar ben ffordd ar raglen deledu Y Llais.