Mae chwyldro ar y gweill yn Sir Gâr er mwyn annog plant a’u rhieni i goginio bwyd ffresh a lleol, ac mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod yn “arbennig”…
Mae elusen newydd yn anelu at “greu byddin o gogyddion” i newid y ffordd mae’r Cymry’n meddwl am fwyd.
Estyniad o waith sydd eisoes yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin yw Cegin y Bobl, menter sy’n cael ei rhedeg gan gogyddion megis Carwyn Graves a Simon Wright.