Mae sawl ysgol yng ngogledd a gorllewin Cymru wedi cau oherwydd yr eira a thywydd rhewllyd unwaith eto heddiw (Dydd Gwener, Ionawr 10).

Yn ogystal, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew mewn rhai rhannau o Gymru, ac yn awgrymu y gallai’r amodau effeithio ar ffyrdd a gwasanaethau trafnidiaeth.

Yng ngogledd a gorllewin Cymru, yn enwedig ar y bryniau uchel, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai 2-4cm o eira gronni.

Cau ysgolion

Mae 28 o ysgolion wedi cau yng Ngwynedd.

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf i’w chanfod yma.

Mae 14 ysgol ar gau yn Sir Gonwy (gweler yma), 21 yn Sir Ddinbych (yma), 2 yn Sir y Fflint (yma), a 2 yng Ngheredigion (yma).

Mi fydd tair ysgol yng Ngwynedd, ac un yn Sir Ddinbych, ar gau’n rhannol, hefyd, ond ar agor i’r rheiny sy’n sefyll eu harholiadau heddiw.

Yn ogystal, mi fydd dwy ysgol yn Sir Gâr ar gau o ganlyniad i broblemau â’u systemau gwresogi.

Gweler y wybodaeth ddiweddaraf yma.

Mae rhybudd melyn am rew hefyd mewn grym ar draws nifer o siroedd y de.