Fe fu’r canwr pop Ed Sheeran ar ymweliad annisgwyl i Gaerdydd ddoe (Ionawr 9), er mwyn hyrwyddo’i fenter newydd i ddod i’r afael ag anghydraddoldebau mewn addysg gerddoriaeth.

Fe fu’n galw yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn Nhreganna, Canolfan Ieuenctid Eastmoors yn y Sblot, a’r prosiect ieuenctid, Grassroots, yng nghanol y ddinas.

‘Methu credu’r peth’

Fe ymddangosodd Ed Sheeran yn annisgwyl mewn gwasanaeth yn Ysgol Fitzalan, cyn perfformio dwy gân ar y llwyfan a rhoi cyfle i ddisgyblion ofyn cwestiynau iddo mewn sesiwn holi ac ateb.

Yna, yng Nghanolfan Ieuenctid Eastmoors, fe gyfarfu Ed â myfyrwyr cerddoriaeth y Ministry of Life, sefydliad sy’n darparu cyfleoedd cerddoriaeth a’r cyfryngau anffurfiol i bobl ifanc sydd wedi symud i ffwrdd o addysg prif ffrwd.

Eisteddodd Ed gyda staff y prosiect er mwyn trafod y rhwystrau y mae pobol ifanc yn eu hwynebu wrth geisio ymgysylltu ag addysg gerddoriaeth.

Yna, fe ymunodd â rhai o’r myfyrwyr mewn sesiwn jamio.

Doedd un o’r myfyrwyr, Ryan o’r Sblot, ddim yn medru credu’r peth.

“Ed Sheeran yw hwn, yn Eastmoors!”, meddai.

“Bydda i’n dweud wrth fy wyrion am hyn pan fydda i’n hŷn.”

‘Ysbrydoli’

Cam olaf y daith oedd ymweliad â phrosiect Grassroots Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.

Mae’r elusen gerddoriaeth ieuenctid leol Sound Progression yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd er mwyn darparu addysg gerddoriaeth am ddim ar draws y ddinas.

Fe gafodd Ed Sheeran gyfle i fwynhau doniau’r perfformwyr ifainc sydd wedi’u hyfforddi ganddynt.

“Doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth pan welais i Ed yn cerdded i mewn,” meddai un cyfranogwr.

“Roedd cael rhywun fel fe yn cymryd yr amser i’n clywed ni’n perfformio yn anhygoel.”

Dywedodd cyfranogwr arall: “Roedd yn anhygoel cwrdd ag un o fy arwyr a rhannu fy ngherddoriaeth gydag ef.

“Mae’r profiad hwn wedi fy ysbrydoli i ddal ati.”

Menter newydd

Mae partner cyfansoddi Ed Sheeran, Amy Wadge, yn byw yn ne Cymru.

Hi ydy llysgennad Aloud, elusen sy’n cynnig profiadau celfyddydol i bobol ifanc ddifreintiedig yng Nghymru.

Amcan Sefydliad Ed Sheeran, gafodd ei lansio’n swyddogol yn ystod yr ymweliad ddoe, ydy dod i’r afael â’r un fath o anghydraddoldebau.

Mi fydd yn cynnig grantiau er mwyn cefnogi addysg gerddorol mewn ysgolion a sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn ardaloedd sydd heb eu gwasanaethu’n ddigonol.

Fe gafodd cyllid ei wobrwyo i bedwar sefydliad yng Nghaerdydd- elusen Aloud, Ysgol Fitzalan, y Ministry of Life Education, a Sound Progression – fel rhan o don gyntaf grantiau’r sefydliad.

Esboniodd Ed: “Mae addysg gerddoriaeth wedi siapio pwy ydw i.”

“Mae Sefydliad Ed Sheeran yn ymdrechu i chwalu rhwystrau ac agor drysau i ddoniau creadigol.”