Mae rhestrau aros ar gyfer asesiadau awtistiaeth ac ADHD “allan o reolaeth”, yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Daw sylwadau’r llefarydd dros Blant a’r Blynyddoedd Cynnar, Joel James, ar ôl i bwyllgor glywed ddoe (dydd Iau, Ionawr 9) y gall nifer y bobl sydd ar restrau aros ar gyfer asesiadau awtistiaeth ac ADHD dreblu erbyn 2027.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles y Llywodraeth Lafur, Sarah Murphy, wrth y pwyllgor bod disgwyl y bydd hyd at 61,000 yn aros am asesiadau erbyn 2027, o gymharu â 20,770 ym mis Medi 2024.
Mae hyn yn cynrychioli cynnydd “brawychus” o dros 400% ers 2021, pan oedd 4,100 o blant ar y rhestr aros.
Mae’r Llywodraeth Lafur wedi dyrannu £3m mewn cyllid untro i fynd i’r afael â’r ôl-groniad, ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dadlau bod hyn yn annigonol ac yn methu â mynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng.
‘Methiant o ran cyfrifoldeb i rai o’n pobl ifanc’
Dywedodd Joel James fod hyn yn “gyfaddefiad dinistriol gan Lafur sydd wedi caniatáu i restrau aros fynd allan o reolaeth.”
“Mae teuluoedd ledled Cymru eisoes yn cael trafferth gyda rhestrau aros hir ac mae’r posibilrwydd o oedi yn treblu dros y ddwy flynedd nesaf yn gwbl annerbyniol.
“Er bod cyllid ychwanegol i’w groesawu, mae angen atebion cynaliadwy hirdymor ar deuluoedd – nid mesurau atal-bwlch, mae’r taliad untro hwn yn nodi nad yw Llafur o ddifrif ynglŷn â chynllun hirdymor i fynd i’r afael â’r mater y maent wedi caniatáu iddo waethygu dros gyfnod o 26 mlynedd diwethaf o’u camreolaeth.
“Mae’r niferoedd hyn yn anghynaladwy, gyda rhai plant eisoes mewn perygl o adael y system ysgol cyn iddynt gael diagnosis hyd yn oed.”
Ychwanegodd nad “methiant proses yn unig yw hyn” a’i fod yn “fethiant o ran cyfrifoldeb i rai o’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros a chynyddu’r gefnogaeth cyn-ddiagnostig i bobl ag ADHD, Awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol eraill.
“Rydyn ni wedi buddsoddi £12m i helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio i fynd i’r afael ag amseroedd aros drwy ein Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, ac ym mis Tachwedd cyhoeddwyd £3m i dorri arosiadau hir ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol i blant.”