Mae prif feddyg Cymru, Syr Frank Atherton, wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’i swydd wedi wyth mlynedd.
Bu’n Brif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod Covid-19 a dywedodd mai uchafbwynt ei yrfa broffesiynol oedd cael “gwasanaethu pobl Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn”.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wedi talu teyrnged i gyngor ac arweiniad “amhrisiadwy” Syr Frank Atherton, yn enwedig yn ystod cyfnod Covid-19.
“Chwaraeodd ran flaenllaw yn ein hymateb i’r pandemig, gan sicrhau bod pobl ar hyd a lled Cymru yn cael gwybodaeth werthfawr am y feirws ac am sut i gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel.
“Hoffwn ddymuno pob lwc iddo ar gyfer y dyfodol.”
‘Angerdd’
Mae Syr Frank Atherton hefyd wedi cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) drwy frigiadau o achosion ffliw a phwysau blynyddol y gaeaf.
Fe bwysleisiodd Judith Paget, prif weithredwr GIG Cymru, “angerdd” Syr Frank “am wella canlyniadau iechyd Cymru.”
“Mae wedi bod yn fraint cael gweithio gydag ef a chael manteisio ar ei brofiad a’i ymrwymiad i ddulliau gweithredu newydd,” meddai.
“Mae wedi chwarae rhan hanfodol o ran rhoi llais i Gymru o gwmpas y bwrdd gyda Phrif Swyddogion Meddygol eraill y DU, adrannau’r llywodraeth a sefydliadau.”
‘Uchafbwynt’
Cyn gadael ei swydd, dywedodd Frank Atherton mai “braint” oedd cael gweithio fel Prif Swyddog Meddygol Cymru.
“Uchafbwynt fy ngyrfa broffesiynol oedd cael gwasanaethu pobl Cymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
“Hoffwn ddiolch i’r holl weision sifil eraill hynny sydd wedi gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni, ac sydd wedi fy nghynorthwyo am bron i ddegawd yn y rôl hon.”
Bydd olynydd Frank Atherton yn cael ei gyhoeddi maes o law.