Gallai Llywodraeth Cymru fod wedi achub rhaglenni Cymraeg gorsaf radio Capital Cymru, yn ôl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol.

Daw’r honiad hwn wedi i BBC Cymru Fyw ganfod ddoe (Ionawr 9) y bydd yr orsaf radio annibynnol yn dod â’i holl raglenni Cymraeg i ben wedi 24 Chwefror.

Mae’n ymddangos i berchnogion yr orsaf, Global Radio, benderfynu i ddileu’r rhaglenni yn dilyn cymeradwyo’r Ddeddf Cyfryngau newydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fis Hydref y llynedd.

Ond mae’r Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, grŵp annibynnol sy’n dylunio polisiau er mwyn rheoleiddio’r wasg a’r cyfryngau, yn dadlau y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi atal hyn.

Deddf Cyfryngau

Mae darlledu ar hyn o bryd yn faes sydd o dan gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Yn eu hadroddiad ddoe, fe rannodd y BBC ddatganiad gan Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Pwysleisiodd y datganiad hwnnw ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarlledu yn Gymraeg.

Ond roedd yn cydnabod hefyd mai’r ‘hyblygrwydd’ mae’r Ddeddf Cyfryngau newydd yn ei ganiatau oedd wedi galluogi i Global Radio dynnu’u rhaglenni Cymraeg, gafodd eu cyflwyno yn ôl yn 2019.

Mae’r Ddeddf Cyfryngau 2024 yn cael gwared ar unrhyw ofynion fformatio penodol ar orsafoedd radio.

Daw’r ddeddf i rym heddiw (Ionawr 10).

‘Cydweithredu’

Ond yn ôl y Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, fe fyddai wedi bod yn bosib osgoi’r canlyniad hwn pe bai Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar eu cynlluniau i ddatganoli maes darlledu.

Roedd ymrwymiad i ddatganoli darlledu’n rhan o drafodaethau Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac ym mis Mehefin 2022 fe gyhoeddodd y Llywodraeth banel arbenigol fyddai’n cyflwyno argymhellion ar y camau nesaf i gyflawni’r amcan honno.

Ond nid yw’n glir beth yw cynllun hirdymor y Llywodraeth bellach.

Mewn datganiad, fe bwysleisiodd Llywodraeth Cymru fod eu his-gorff Cymru Creadigol yn cydweithredu’n gyson gyda darlledwyr cenedlaethol a’r DCMS.

Mae hyn yn ymdrech i “sicrhau fod anghenion Cymru’n cael eu cydnabod wrth ddatblygu polisïau a rheoleiddiadau priodol,” medden nhw.