Mae safle Sw Mynydd Bae Colwyn wedi bod ar gau eto heddiw (Ionawr 10) oherwydd y tywydd rhewllyd.
Roedd y safle ar gau am gyfnod ddoe (Ionawr 9), eto oherwydd tywydd garw ac amodau teithio.
Mewn datganiad ar eu cyfrif X, dywed y Sw fod eu “tîm ceidwad ymroddedig ar y safle yn gofalu am ein hanifeiliaid, ac mae staff wrthi’n gweithio i sicrhau diogelwch y safle.”
Er bod rhai anifeiliaid yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn y tywydd gaeafol, dywed y sw bod y camelod bactriaidd wedi hen arfer mewn tywydd eithafol gyda thymheredd yn eu cynefinoedd brodorol yn codi rhwng +40 gradd celsiws yn yr haf a -30 gradd celsiws yn y gaeaf.
Mae’r Sw wedi cynghori pobl i gadw llygad ar eu cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y newyddion diweddaraf a phryd byddan nhw’n ail-agor.
Dyma’r olygfa ym Mae Colwyn mewn lluniau wedi’u postio gan y Sw: