Mae’r sefyllfa yn y sector cyhoeddi bellach yn “argyfwng”, yn ôl cadeirydd un o bwyllgorau Llywodraeth Cymru.

Mae Delyth Jewell, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i helpu’r sector.

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor ddoe (Ionawr 9) yn datgelu pa mor fregus yw’r sefyllfa.

Mae adroddiad y pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru “ystyried cynyddu’r cyllid” sy’n cael ei roi i’r sector.

Fel sydd wedi ei adrodd gan golwg360, mae’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wedi bod yn rhybuddio ynglŷn â’r sefyllfa ariannol bresennol sydd yn peryglu nifer o gyhoeddwyr.

Dywed Delyth Jewell wrth golwg360 ei fod wedi bod yn “sioc” iddi glywed “pa mor argyfyngus ydy’r sefyllfa” o fewn y diwydiant cyhoeddi.

Ychwanega Delyth Jewell fod y sefyllfa nawr yn “argyfwng”.

Yn ymateb i’r adroddiad, dywed Cyhoeddi Cymru, sy’n cefnogi’r diwydiant cyhoeddi: “Mae Cyhoeddi Cymru yn croesawu’r canfyddiadau a’r argymhellion yn yr adroddiad.

“Mae’r sector cyhoeddi yng Nghymru yn hanfodol i lythrennedd, addysg, lles, diwylliant, ac ieithoedd ac, fel gwlad fach, mae ariannu gan lywodraeth yn hanfodol i gynnal diwydiant cyhoeddi sydd yn iach ac sy’n ffynnu.

“Mae’r toriadau ar hyd y degawd diwethaf a’r rhai sy’n cael eu cynnig ymhellach yn hanfodol i fodolaeth rhai o’n haelodau, felly mae Cyhoeddi Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr ymatebion a’r argymhellion cryf yn yr adroddiad hwn, ac i ailfeddwl ar frys y gefnogaeth sydd yn cael ei chynnig ac sy’n angenrheidiol i’r sector.”

‘Ar y trywydd i fod yn wlad elitaidd”

Dywed Delyth Jewell fod rhaid gwneud mwy er mwyn “llesiant cymunedau” yng Nghymru i sicrhau fod mwy yn cael ei wneud i amddiffyn y sector cyhoeddi.

“Os dy’n ni ddim yn mynd i weld newid nawr, fi’n poeni byddwn ni’n gweld dyfodol lle mai’r plant cyfoethog yn unig fydd yn gallu ceisio mynd mewn i’r celfyddydau,” meddai.

“Boed hynny’r byd cerddoriaeth, neu theatr, neu ysgrifennu a chyhoeddi llyfrau.”

Ychwanega Delyth Jewell, er nad yw Cymru’n wlad “elitaidd” yn y bôn, bod y “trywydd” presennol yn arwain tuag at hynny.

Mae golwg360 wedi adrodd am bryderon nad oes gan ysgolion y gyllideb i brynu llyfrau newydd.

Yn ôl y Cyngor Llyfrau, mae 45% o ysgolion yng Nghymru yn gwario llai na £500 y flwyddyn ar lyfrau.

Yn sgil canlyniadau gwael Pisa, sy’n sgorio canlyniadau gwyddoniaeth, llythrennedd, a mathemateg o fewn ysgolion ar draws y byd, dywed Delyth Jewell fod yna “gysylltiad amlwg rhwng y diwydiant cyhoeddi a llythrennedd a safonau addysg” yma yng Nghymru.

Yn siarad o’i phrofiadau hi fel Aelod o’r Senedd yn hytrach na Chadeirydd y Pwyllgor, dywed ei bod hi wedi “clywed am straeon o ysgolion newydd sbon yn cael eu hagor heb lyfrgell”.

“Mae fe’n rhywbeth ofnadwy i glywed,” meddai.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol, os oeddech chi’n gwneud yn dda mewn rhywbeth, oeddech chi’n cael mynd i’r llyfrgell i gael llyfr mas.

“Mae fe’n rhywbeth sydd mor hanfodol bwysig i ddatblygu dychymyg plentyn.”

Ychwanega ei fod yn ymddangos bod adrannau Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n “ynysol” o’i gilydd, gyda “dim strategaeth” i geisio cydweithio i adfer y broblem o bersbectif diwylliannol ac addysg fel esiampl.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai gweinidogion trawsadrannol yn Llywodraeth Cymru ddod at ei gilydd i drafod ffordd ymlaen i achub y diwydiant.

Gwario llai na gweddill Ewrop ar ddiwylliant

Yn ôl adroddiad y pwyllgor mae’r maint sy’n cael ei wario y pen yng Nghymru ar wasanaethau diwylliannol yn £69.68.

O gymharu â gweddill gwledydd Ewrop sy’n cael eu hystyried yn yr adroddiad, mae hynny’n rhoi Cymru yn ail o’r gwaelod.

Mae Gwlad yr Iâ yn gwario £691.60 y pen ar wasanaethau diwylliannol.

Dywed Delyth Jewell fod yr ystadegau yn “syfrdanol o wael”.

“’Dyn ni’n sôn am ein hunain fel Gwlad y Gân, felly mae e’n cael effaith ar y ffordd rydym yn portreadu ein hunain ar lwyfan y byd, ac o ran ein cymeriad fel cenedl.”

Wrth drafod y ffigyrau, dywedodd Richard Tunnicliffe, sy’n gyd-berchennog cwmni cyhoeddi RILY, ei fod “syfrdanol” bod y gwariant “mor isel â hynny” o gymharu â gweddill Ewrop.

“Mae ein diwylliant ni mor gyfoethog ag unrhyw ddiwylliant arall,” meddai wrth golwg360.

Yn cyfeirio at benderfyniad Llywodraeth Yr Alban i gynyddu gwariant ar y celfyddydau a diwylliant o £34 miliwn, mae Richard Tunnicliffe yn cwestiynu lle mae’r buddsoddiad.

“Rydym eisiau dathlu ein diwylliant,” meddai.

“Ond yn anffodus dydyn ddim yn medru heb gefnogaeth ac arian gan y llywodraeth, oherwydd y broblem efo bod yn fach o gymharu â rhywle mawr fel Lloegr, rydych yn tueddu i gael eich boddi.”

O ran y cyhoeddwyr sydd wedi cyfrannu at waith y Pwyllgor, dywed Delyth Jewell:

“Maen nhw’n dweud bod y sefyllfa maen nhw ynddo fe nawr yn waeth nag oedd e yn y pandemig.

“Dw i’n meddwl bod rhai cyhoeddwyr yn dweud bod gwerthiant llyfrau ar ei isaf ers tua degawd.

“Mae fe’n teimlo fel argyfwng i’r diwydiant.”

Stondin y cyhoeddwr llyfrau RILY yn yr Eisteddfod Genedlaethol

‘Ddim bai ar y llywodraeth’

Un o’r problemau sy’n cael ei nodi yn sgil yr iaith yn yr adroddiad, yw’r effaith fydd y sefyllfa ariannol bresennol yn ei gael ar y gallu i ysgrifennu llyfrau gwreiddiol newydd yn y Gymraeg.

“Rydyn ni fel pwyllgor wedi clywed fod yna lot fwy o sicrwydd (o ran gwerthiant) i gael cyfieithiadau o bethau o’r Saesneg nag i gael pethau newydd yn y Gymraeg,” meddai Delyth Jewell.

“Felly mae llai o leisiau newydd yn cael eu clywed yn y Gymraeg.

“Bydden ni i gyd ar ein colled, oni bai bod hynny’n newid yn fuan iawn.”

Dywed Richard Tunnicliffe fod Llywodraeth Cymru ddim wedi “anwybyddu” galwadau’r sector cyhoeddi.

“Doedden nhw (gwleidyddion) wir ddim yn gwybod am y sefyllfa mae’r sector ynddi a pha mor agos mae rhai pobl wedi bod at fynd i’r wal,” meddai.

“Felly dw i ddim yn beio neb, oherwydd doedd neb yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa”.

Ymateb

“Mae’r sector celfyddydau yn gwneud cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hanfodol i Gymru, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Fodd bynnag, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen yn dilyn blynyddoedd o setliadau ariannu anodd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae setliad diweddaraf Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cyfle i ni ddyrannu mwy o gyllid ar gyfer ein sefydliadau diwylliannol, celfyddydau a chwaraeon yng nghyllideb ddrafft 2025-26.”