Mae nifer y trenau sy’n cael eu canslo ar linell gymudwyr allweddol yn “frawychus”, yn ôl Plaid Cymru.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths AS, llefarydd Plaid Cymru dros Drafnidiaeth, bod “nifer annerbyniol” o drenau ar reilffordd Glyn Ebwy yn cael eu canslo.
Mae’r Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru wedi galw ar Ysgrifennydd y Cabinet Llafur i fynd i’r afael â’r mater ar frys.
Daw hyn ar ôl iddo ddatgelu ffigurau ar gyfer nifer y trenau gafodd eu canslo dros y chwe blynedd flaenorol.
Mae’r data yn dangos, ym mlwyddyn ariannol 2024/25 (hyd yma), bod 4.5% o wasanaethau trên wedi’u canslo. O gymharu, cafodd 2.9% o’r gwasanaethau ar reilffordd Glyn Ebwy eu canslo yn 2023/24.
“Os ydych yn cymharu’r ffigurau diweddaraf â nifer y rhai gafodd eu canslo yn 2020/21 pan gafodd 0.8% o wasanaethau eu canslo, mae’r gwahaniaeth yn fwy llwm,” meddai Peredur Owen Griffiths.
‘Dirywiad brawychus’
“Gofynnwyd i mi edrych ar berfformiad llinell Glyn Ebwy gan etholwr yn dilyn cymhorthfa yn ddiweddar yn ardal Y Tŷ Du.
“Roedd yr etholwr hwn wedi mynegi ei rwystredigaeth gyda dibynadwyedd y gwasanaeth gan fod ei fab yn dibynnu arno i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yng Nghaerdydd ac mae wedi cael ei siomi’n aml.
“Mae’n amlwg o’r ffigyrau bod nifer annerbyniol o drenau wedi’u canslo ar y rheilffordd yn ddiweddar. Ar reilffordd fel Glyn Ebwy – sydd ddim mor rheolaidd ag ardaloedd eraill – gall gwasanaeth sydd wedi ei ganslo olygu’r gwahaniaeth rhwng bod yn hwyr i’r gwaith neu gyrraedd ar amser.
“Er gwaethaf chwistrelliad mawr o arian ar gyfer y trenau yng Nghymru, bu dirywiad brawychus mewn perfformiad ar y gwasanaeth allweddol yma i deithwyr yn fy rhanbarth.
“Er mwyn pobl yng Ngwent sy’n dibynnu ar y gwasanaeth hwn, rhaid i’r Ysgrifennydd Cabinet Llafur fynd i’r afael a’r sefyllfa a gwella dibynadwyedd y gwasanaeth.
“Os yw’r Llywodraeth o ddifri am annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, rhaid iddyn nhw ddarparu gwasanaeth y gellir dibynnu arno.”