Wrth i fwy o rybuddion tywydd gaeafol ddod i law a chynnydd yn nifer y rhai sy’n dioddef o’r ffliw, mae un elusen yn ymdrechu i sicrhau diogelwch a lles trigolion hŷn, eu teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
O gynnig cyngor hanfodol ar gadw’n gynnes i wybodaeth am wasanaethau cymorth pellach mewn argyfwng, mae canllaw ‘Yn gynnes dros y gaeaf’ gan elusen Age Cymru yn sicrhau bod pobl yn aros yn ddiogel yn ystod y tywydd garw.
Elusen sy’n “gweithio gyda phobl hŷn i ddatblygu a darparu newidiadau cadarnhaol ar eu cyfer” yw Age Cymru.
Mae eu canllaw ‘Yn gynnes dros y gaeaf’ yn un o’u “hadnoddau mwyaf poblogaidd”, yn ôl Angharad Phillips, Swyddog Mentrau Iechyd Age Cymru.
Wrth siarad â golwg360, mae Angharad Phillips wedi rhoi trosolwg o’r canllaw gan gynnig rhai o awgrymiadau’r elusen.
‘Yn gynnes dros y gaeaf’
Mae’r elusen yn cynnig cyngor ar sut i ofalu am eich iechyd yn ystod misoedd y gaeaf.
Maen nhw’n atgoffa pobl i fwyta’n iach, i gadw’n heini ac yn cynghori i barhau i yfed dŵr mewn tywydd oer er mwyn sefydlogi pwysau gwaed.
“Mae’r tywydd oer yn cynyddu’r perygl o ffliw a phroblemau anadlol eraill.
“Mae’r oerfel hefyd yn medru cynyddu pwysedd eich gwaed. Os ydych chi wedi bod allan yn y tywydd oer, mae’n cymryd mwy o amser i bwysedd eich gwaed ddychwelyd i’w lefel arferol.
“Meddyliwch am yr hyn rydych chi’n ei fwyta fel tanwydd i’ch corff, os ydych chi’n bwyta’r pethau anghywir, yna efallai bydd hynny’n effeithio ar eich corff.
“Gall fod yn anodd paratoi prydau bwyd yn gyson, felly mae pobl yn troi at fyrbrydau, ceisiwch fod yn drefnus o ran eich bwyd.
“Mae ein chwant bwyd yn newid o ddydd i ddydd, ceisiwch fwyta tri phryd bwyd bob dydd: brecwast, cinio a swper,” meddai Angharad.
Osgoi bacteria
I unrhyw un sydd â chyflwr iechyd cronig, mae Age Cymru yn annog pobl i gadw’n gynnes gan wisgo sawl haen o ddillad tenau a dillad cynnes yn y gwely.
Ac i’r rhai sy’n gymwys am frechlyn yn erbyn y ffliw neu frechiad atgyfnerthu Covid-19, mae’r elusen yn eu hannog i wneud apwyntiaid gyda’i meddygfa “cyn gynted ag y bod ar gael”.
Er mwyn diogelu eich hun rhag heintiau, mae’n bwysig sicrhau hylendid dwylo, sydd yn ffordd syml i atal heintiau a bacteria rhag lledaenu.
“Yn ogystal â chael ein brechu, mae rhai mesurau syml eraill y gallwn eu cymryd i leihau lledaeniad salwch – sy’n arbennig o bwysig eleni.
“Golchi ein dwylo’n rheolaidd gyda sebon a dŵr yw un o’r ffyrdd gorau o atal germau rhag lledaenu. Mae hefyd yn syniad da cadw rhywfaint o ddiheintydd alcohol ar gyfer eich dwylo gyda chi pan fyddwch chi’n mynd allan.
“Diogelwch eich dwylo, traed, clustiau, trwyn a cheg.
“Os gallwch chi gadw’r rhain yn gynnes ac wedi’u gorchuddio yna byddwch chi’n amddiffyn eich llwybrau anadlu rhag ymlediad firysau a’ch calon rhag gorfod pwmpio mor galed i gynhesu’ch eithafion.”
Paratoi eich cartrefi
Mae’r canllaw hefyd yn annog pobl i baratoi eu cartrefi, yn ogystal â nhw eu hunain ar gyfer y gaeaf.
Mae hyn yn cynnwys gwresogi’r tŷ er mwyn osgoi’r ffliw ac i gynnal systemau tân agored neu losgwr caëdig yn gywir os oes rhai o gwmpas y tŷ.
Mae’r wybodaeth angenrheidiol am osod systemau wresogi a sut i gadw’n ddiogel rhag carbon monocsid hefyd gael ar y canllaw yn ogystal â chymorth i unrhyw un sy’n pryderu am brisiau ynni uchel.
Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys y rhestr wirio diogelwch gwresogi isod:
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwasanaethu eich dyfeisiau bob blwyddyn.
- Glanhewch eich simnai a’ch pibellau bob blwyddyn.
- Dewch o hyd i’ch briciau awyru a’ch tyllau awyr a gwnewch yn siŵr nad oes dim yn eu rhwystro, er enghraifft dodrefn/ annibendod. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n lan, a bod dim dwst na gweoedd pryfed cop yn eu gorchuddio.
- Wedi i chi osod synwyryddion carbon monocsid ymhob ystafell, gwiriwch nhw bob wythnos er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gweithio’n gywir.
Mewn achos o doriadau pŵer, mae’r elusen yn annog fod gennych chi radio fatri, torts a batris ychwanegol wrth law yn ogystal â gwneud yn siŵr fod batri llawn i’ch dyfeisiadau technoleg.
“Rydym yn annog pobl hŷn i wirio a chofrestru ar gyfer y Gofrestr Gwasanaethau â Blaenoriaeth,
“Os byddwch yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau blaenoriaeth gallech gael cymorth a chefnogaeth ychwanegol, megis cyfrinair unigryw i chi gadarnhau hunaniaeth gweithiwr trydan neu nwy sy’n galw yn eich cartref, neu symud mesurydd rhagdalu os na allwch ei gyrchu mwyach.”
I’r rhai sydd ar incwm isel, mae modd derbyn cymorth wrth hawlio Credyd Pensiwn.
Yn ôl Age Cymru, mae Credyd Pensiwn yn “fudd-dal sy’n gysylltiedig ag incwm.
“Gall weithredu fel porth i’ch helpu i fod yn gymwys i gael ystod o fudd-daliadau a hawliau eraill, gan gynnwys y Taliad Tanwydd Gaeaf.”
Gwelir gwybodaeth bellach am Grantiau Costau Byw, asiantaethau Gofal a Thrwsio a Chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru ar ganllaw Age Cymru, ‘Yn gynnes dros y gaeaf.’