Llun trawiadol o grëyr glas yn dal cranc bychan yn ei big ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth ffotograffiaeth Cymdeithas Adaryddol Cymru eleni.
“Ffliwc” oedd y llun, meddai Greta Hughes, fu’n dal y crëyr yn bwyta ar harbwr Pwllheli gyda’i chamera’r llynedd.
Yn wyddonydd sydd newydd ymddeol yn 66 oed, bu Greta wrthi yn tynnu lluniau’r tirlun ers ei harddegau, a dim ond yn gymharol ddiweddar mae hi wedi troi’r lens at fywyd gwyllt.