Sawl gwaith allwch chi blygu darn o bapur A4 yn ei hanner? Os oes gennych ddarn gerllaw, rhowch gynnig arni! Pump? Chwech, efallai? Saith? Byth wyth!

Pe bawn (gan fod plygu mor lletchwith) yn cael gafael ar declyn torri hynod fanwl, a thorri yn hytrach na phlygu’r darn papur A4, ymhen 30 toriad buaswn wedi cyrraedd maint atom hydrogen, ac ymhen 47 toriad yn cyrraedd maint proton unigol yng nghrombil yr atom hydrogen honno. Dim ond 47 toriad! Gyda 47 cam, byddwn wedi symud o ddarn papur A4 i’r proton lleiaf!

Beth pe bawn yn dyblu maint y darn papur gan symud o A4 i A3 i A2 i A1 ac yn y blaen? Ar ôl dyblu maint y papur A4 90 o weithiau, buaswn wedi symud y tu hwnt i’r sêr a’r gofodau gweladwy, ac wedi cyrraedd ymylon y Bydysawd – 14 biliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd!

Pe bawn yn gosod y mawr a’r bach ynghyd, ymhen 137 o haneri a dyblu darn o bapur A4, rydym wedi mynd i’r dimensiwn lleiaf, a’r mwyaf o’n realiti ninnau.

Wn i ddim a oes neges yn hyn, ac os oes neges, beth yw honno’n union. Ond mi wn fod y ffeithiau uchod wedi chwarae ar fy meddwl ers i mi eu darllen nhw ddechrau’r wythnos.

Yn ein perthynas â Duw, yn ein hymwneud â ni’n hunain ac eraill, yn ein bywyd fel eglwys, cymuned, cenedl, byd… dim ond camau bach – a llai o lawer ohonyn nhw nag y tybiwn – sydd eu hangen i fod yn llawer mwy, neu’n llawer llai nag y credwn sydd yn bosibl.