Dyma gyfres newydd o eitemau sy’n edrych ar rai o hoff lefydd darllenwyr Golwg360. Mae’r eitemau wedi cael eu sgwennu gan ddysgwyr Cymraeg. Y tro yma, Sonya Hill o Lanbedr ger Harlech, sy’n dweud pam mai traeth Llandanwg yng Ngwynedd yw ei hoff le yng Nghymru…
Mae Sonya yn dod o Walsall yn wreiddiol a symudodd i Gymru yn 2016. Mae hi’n dysgu Cymraeg ar-lein gyda Popeth Cymraeg a Phrifysgol Bangor.
Fy hoff le yng Nghymru ydy Llandanwg yng Ngwynedd. Dyma’r traeth agosaf at fy nhŷ i.
Mae’n lle hardd gyda golygfeydd hyfryd i bob cyfeiriad – Pen Llŷn i’r Gogledd, mynyddoedd y Rhinogydd i’r Dwyrain, Mochras (Shell Island) i’r De a’r môr i’r Gorllewin.
Dw i wrth fy modd yn nofio yn y môr yno, yn enwedig ar fachlud haul. Ro’n i’n arfer mynd yno bron bob dydd yn ystod y cyfnod clo.
Dw i ddim yn mynd yno mor aml y dyddiau hyn achos mae fy nghi yn mynd yn hen a dydy hi ddim yn cerdded yn bell.
Mae ’na eglwys hen iawn wrth ymyl y traeth o’r enw Sant Tanwg a sefydlwyd yn y bumed ganrif. Mae’r eglwys ar lwybr pererindod newydd 128 milltir o Dywyn i Ynys Enlli.
Oes gynnoch chi hoff le yng Nghymru? Beth am ysgrifennu at bethanlloyd@golwg.cymru?