Wedi laru ar gyw iâr sy’n ddigon diflas o bryd i’w gilydd? Wel, dyma rysait i gynhesu’r stumog a mynd â’ch synhwyrau ar daith newydd. Datblygais y rysait yma drwy arbrofi gyda’r hyn oedd gen i yn fy nghwpwrdd sbeisys. Gallwch ychwanegu neu dynnu cynhwysion i ffwrdd fel y mynnoch, ond braf weithiau yw cymryd yr hyn sydd gennych a gweithio ar ddatblygu syniadau newydd!

Gall £3.75 y pen ymddangos yn ddrud, ond mae hwn yn bryd sylweddol, gyda’r cynhwysion i gyd yn ffres, a bydd gennych hefyd gyw iâr yn weddill ar gyfer y diwrnod wedyn.

O.N. Gallwch ddefnyddio esgyrn y cyw iâr i wneud stoc yn hytrach na’i luchio, i sicrhau nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu.


Yr hyn fyddwch chi ei angen:

Cyw iâr ffres

¼ cwpan o olew olewydd

Finegr seidr

Sesnin ‘Old Bay’

Saets

Coriander

Chipotle wedi’i fygu â hicori

Garlleg

Nionyn

Bara garlleg fflat

Caws (mozzarella neu gaws glas)

Tsili ffres (dewisol)


Coginio

Mewn powlen, tywalltwch ¼ cwpan o olew olewydd a chymysgu’r canlynol:

  • dwy lwy fwrdd o finegr seidr
  • dwy lwy fwrdd o sesnin ‘Old Bay’
  • un llwy de o saets
  • un llwy de o coriander
  • un llwy de o chipotle wedi’i fygu â hicori
  • un segment mawr o garlleg (neu ddau fach)

Gosodwch y cyw iâr mewn dysgl wydr a’i orchuddio gyda’r marinêd uchod, gan ofalu eich bod yn ei orchuddio yn gyfan gwbl, gan gynnwys gwaelod y cyw iâr.

Rhowch y cyw iâr yn yr oergell am o leiaf hanner awr am flas cryfach. Roedd fy un i yn yr oergell am bedair awr. Gorau po hiraf mae’n sefyll.

Tynnwch y cyw iâr o’r oergell a’i orchuddio eto gyda’r marinêd, ar waelod y bowlen.

Coginiwch y cyw iâr nes bo’r sudd tu fewn yn rhedeg yn glir.

Tynnwch y cyw iâr allan a’i dorri’n ddarnau (Peidiwch â bod ofn y croen, dyma’r darn gorau, yn fy marn i!).

Gwasgarwch y caws o’ch dewis ar y bara garlleg fflat, a’i gynhesu’n llwyr nes bo’r caws yn feddal.

Torrwch nionyn ffres a’i osod ar y bara, ynghyd â’r cyw iâr ‘Old Bay’, tsili ffres (os dymunwch), a phupur gwyn a halen.

Mwynhewch!