Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y gantores, actores, a thrysor cenedlaethol, Margaret Williams, sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Margaret Williams yn dod o Frynsiencyn, Ynys Môn yn wreiddiol ac wedi bod yn canu ers oedd yn dair oed. Hi oedd enillydd cyntaf Cân i Gymru yn 1969 ac roedd ganddi ei chyfres ei hun, ‘Margaret’ ar S4C rhwng 1982 a 1999. Mae eleni’n nodi 60 mlynedd union ers i’w gyrfa ddechrau pan ymddangosodd yn y gyfres adloniant Be Nesa?, gyda Ryan Davies. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, y darlledwr Geraint Jones…
S’gen i fawr o gof o beth ‘ro’n i’n bwyta’n blentyn ifanc iawn, ond mi ydw i YN cofio am ryw ffisig o’r enw Tenti Riwbob ( Tincture of Rhubarb) bob tro roedd salwch. Mi roedd o’r peth mwya’ dychrynllyd i’w gymryd a, wir, unwaith ro’n i’n ddigon hen i gwyno, chymrais i byth ddim ohono wedyn. Y “ffisig” arall fyddai Bara Llefrith, a chan fod gan fy nhad gymaint o ffydd ynddo, byddwn yn teimlo’n well yn syth ar ôl ei fwyta.
Doedd mam ddim yn coginio llawer pan ro’n i’n blentyn gan ei bod yn dioddef o’r “cricmala” – crud y cymalau, poenus dros ben, ag mi roedd wedi effeithio ar ei dwylo. Felly hefo nain fyddwn i’n bwyta rhan amlaf. Roedd hi’n wych am goginio, ac wrth ei bodd yn y gegin.
Y pryd fyddwn i’n gwirioni ag o fwya’ fyddai tatws-yn-popty ar ambell i Sul. Byddai nain yn coginio’r cig ar nos Sadwrn, a hithau a finna’n pigo ryw damaid bach, bach ohono bob un. Wedyn, bore Sul, mi fyddai’r tatws yn cael eu coginio’n ara’ bach tra roeddan ni yn y capel, ac mor braf fyddai cyrraedd nôl i arogl y bwyd oedd yn aros amdanon ni. Digon o lysiau wrth gwrs. Cario dau blatiad dros y ffordd wedyn i mam a nhad. Mi fyddwn i’n aml iawn yn gofyn i nain wneud ‘Junket’ yn bwdin, ynghyd â’r pwdin reis arferol.
Dwi’n cofio bydden i’n hoff iawn o fwyta tatws llaeth, sy’n swnio fel fy mod yn mynd nôl i oes yr Arth a’r Blaidd i bobol ifanc a chanol oed heddiw. Tatws wedi’u berwi, llaeth (enwyn) ar eu pen, a digon o halen – blasus. Yn sicr ’does dim arlliw o datws llaeth yn cael ei roi o flaen fy nheulu i heddiw, mae son amdano’n eu gwneud nhw reit sâl!
Byddwn yn mynd i dy ‘Anti Olwen ag Yncl Phil’ i de bob Sul, yn syth o’r Ysgol Sul. Yn ystod y tymor ffrwythau fel mefus, mafon, gwsberis, a llus, byddai Yncl Phil a finna’n mynd i’r ardd i bigo rhai, eu golchi a’u bwyta hefo hufen ffres i de. Wir, roedd te Anti Olwen fel pen-blwydd i mi – tair neu bedair “teisan blât” – teisan afal, gwsberis, mwyar duon – ac, un tro, pan ro’n i ryw dair oed, cyrraedd adra, a nain bob amser yn gofyn “be’ ges ti i de, be’ oeddat ti’n lecio fwya?”. A’r ateb gafodd hi oedd “teisan nionod Anti Olwen”. Fuo’ raid iddi ofyn i fy modryb beth oedd y deisan nionod ’ma, a’r ateb – teisan riwbob!
Pan fydda’i eisiau’ cysur, does dim yn curo paned a theisan (cacen) i mi. A phan fydda’i wedi gwneud pwdin bara menyn, (mae fy ŵyr, Wil, wrth ei fodd hefo fo) mae ’na gysur enfawr o’i fwyta – ond pwys neu ddau ar y corff wedyn yn brawf o hynny!
Mae dewis fy mhryd bwyd delfrydol ru’n fath a dewis fy hoff gân – amhosib! Ond dw i ’di bod yn hynod lwcus o fod wedi trafeilio llawer iawn, a chael bwyta mewn bwytai, gwestai, a llongau moethus dros ben. Ond llefydd hefo bwyd a naws naturiol, tebyg i The Walnut Tree ger Y Fenni fyddai’r bwyty roeddem yn arfer mynd iddo dro ar ôl tro beth amser yn ôl.
Yn ddiweddar, wel, ers blynyddoedd maith bellach, rydym bob amser yn cael bwyd bendigedig mewn bwyty Eidalaidd yn Funchal, Madeira. Mae’r bwyty yn perthyn i westy Reids yno ac mi arhoson ni yn y gwesty pan oeddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn 70, a chael pryd delfrydol yn wynebu’r môr ar noson boeth ym mis Gorffennaf. Dw i’n cofio mai’r prif gwrs oedd cig oen wedi’i goginio’n berffaith, tri math o bwdin yn cynnwys “chocolate bombe“, brownies hefo rhywbeth yn debyg i hufen ia arnyn nhw, ond mewn gwirionedd rydych yn arllwys saws caramel poeth arno, ac mae’r cyfan yn torri’n feddal dros y brownies, melys a moethus – “noti ond neis”! Mae’n debyg fod y pwdin yna’n gyffredin erbyn hyn.
Bwyd sy’n fy atgoffa o’r Gaeaf yn ddiamheuol ydi lobsgóws, cig, a llond sosban o lysiau maethlon. S’dim byd tebyg ar noson oer yng nghanol misoedd Ionawr a Chwefror. Dw i’n cofio ffilmio drama Maria yn Aberdaron un Chwefror eithriadol o oer. Gorfod rhedeg i’r môr rhewllyd am 10 y nos, ac o, mor braf oedd cyrraedd nôl i’r gwesty a chael powliad o gawl poeth. Doedd o ddim llawn cystal â lobsgóws, ond nesa peth. Dw i’n hoff iawn o basta Tagliatelle hefo saws pesto hefyd. Mi fyddai’n gwneud digon o’r saws a rhewi peth ar gyfer pryd arall.
Pan fyddwn i’n coginio i bobol eraill, cinio rhost fyddwn i’n wneud bob tro, a rhaid imi ddweud fy hun, mod i’n dipyn o seren am wneud grefi! ‘Tawn i’n coginio i rywun heddiw, byddai’n well gen i wneud te pnawn gan mod i wrth fy modd yn gwneud bara brith, cacennau sbwng Fictoria, lemwn, coffi, siocled…
Does dim llawer o son am Delia dyddiau’ hyn, ond mi fyddwn i’n arfer gwneud ei rysetiau Nadolig hi – mins peis, cacen, a phwdin Dolig. Erbyn hyn dw i’n dilyn ryseitiau Nigella. Deud y gwir, ma’ gen i bentwr o lyfrau coginio yn y tŷ, ac yn cael yr un pleser o’u darllen bron ru’n fath a baswn yn darllen nofel, ond tueddu i ddarllen y rysetiau, edrych ar y lluniau, a deud: “O ma’ raid imi ’neud hwnna” neu “Wel, mi wna’i hwnna fory “… ond, rhan amla’, dydy ’fory’ byth yn cyrraedd!