Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn dweud bod yna “negeseuon dryslyd” am ymrwymiad Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i bolisïau net sero yn dod o ganlyniad i Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves.

Wrth siarad â golwg360, dywed Anthony Slaughter fod y penderfyniad i rewi’r dreth danwydd yn “siomedig”.

Mae Rachel Reeves wedi ymestyn y gostyngiad o bum ceiniog y litr yn y dreth danwydd am flwyddyn arall hyd at 2026.

“Dw i’n credu bod rhaid diwygio’r dreth danwydd a sut rydym yn talu am ffyrdd,” meddai Anthony Slaughter.

“Oherwydd, ar hyn o bryd, mae yna ddadl i ddweud ei bod yn dreth atchweliadol ar y bobol dlotaf mewn cymdeithas, gan nad yw’r rhai mwyaf cyfoethog mewn cymdeithas yn gorfod talu wrth iddyn nhw symud i geir trydan.”

Teithio

Yn Lloegr, mae’r cap ar docynnau bws am godi o £2 i £3 o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Er bod hwn yn bolisi sy’n effeithio ar Loegr yn unig, dywed Anthony Slaughter fod hwn “yn gyrru’r neges gwbl anghywir” i’r cyhoedd ledled y Deyrnas Unedig.

“Roedd hefyd yn arwyddocaol fod y gair ’natur’ ddim yn yr araith unwaith.

“Felly roedd o’n siomedig mewn llawer o ffyrdd o safbwynt materion gwyrdd.”

“Croesawu” y cynnydd yn y dreth ar awyrennau preifat

Dywed Anthony Slaughter ei fod yn “croesawu” y penderfyniad i gynyddu’r dreth ar deithiau mewn awyrennau preifat.

Ond mae’n cwestiynu a yw’r dreth o £450 “yn mynd i stopio rhywun fel Rishi Sunak rhag hedfan i Galiffornia mewn awyren breifat”.

“Felly yr ofnusrwydd yma, y gydnabyddiaeth fod rhaid i bethau newid, ond wedyn gwneud hyn mewn ffordd sydd ond yn cyffwrdd yr ochrau sydd yn fy mhoeni i,” meddai.

Ychwanega y dylai Rachel Reeves fod wedi dilyn awgrym y Blaid Werdd i godi’r dreth gyfoeth ar y rhai mwyaf cyfoethog mewn cymdeithas.

“Byddai treth gyfoeth yn cyflawni’r hyn mae hi eisiau ei wneud yn nhermau buddsoddi yn y sector cyhoeddus,” meddai.