Mae Plaid Cymru’n galw am ddiogelu sector cyhoeddus Cymru, yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Canghellor San Steffan yr wythnos hon.
Mae’n bosib y gallai cyfraniadau cyflogwyr tuag at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr – un o bolisïau’r Canghellor Rachel Reeves – gostio cymaint â £380m i sefydliadau’r sector cyhoeddus.
Mae Plaid Cymru’n galw ar y Trysorlys i ddiogelu cyflogwyr o fewn y sector yng Nghymru yn llawn yn sgil y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol.
Mae cyflogwyr megis y Gwasaneth Iechyd Gwladol yng Nghymru ac awdurdodau lleol eraill eisoes “dan bwysau ariannol aruthrol”, meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.
Fe wynebodd byrddau iechyd ledled Cymru ddiffyg cyfunol o ryw £183m yn 2023-24, gyda chynghorau’n wynebu diffyg o fwy na £500m.
Yn ôl Plaid Cymru, dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd cyflogwyr sector cyhoeddus Cymru yn cael eu diogelu’n llawn er mwyn eu helpu i ymdopi â phwysau ychwanegol ar eu biliau cyflog.
Mae pa gymorth fydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus megis gofal cymdeithasol, gofal plant a phrifysgolion Cymru hefyd yn parhau i fod yn aneglur.
‘Peidio parhau â thraddodiad y Torïaid’
“Yng Nghymru, mae dros 30% o’r gweithlu yn cael ei gyflogi yn y sector cyhoeddus – cyfran uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig – sy’n golygu y bydd y codiad treth hwn yn rhoi mwy o bwysau ar sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn benodol,” meddai Mabon ap Gwynfor.
“Er gwaethaf y pryder gaiff ei deimlo gan sefydliadau, nid ydym eto wedi clywed unrhyw eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a fyddan nhw yn gwneud iawn am y cynnydd amcangyfrifedig o hyd at £380m yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
“Bydd unrhyw beth llai na chael eu digolledu’n llawn am y bil cyflog uwch hwn yn medru arwain at lai o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen yn y Gwasanaeth Iechyd, awdurdodau lleol yn gorfod tynnu’n ôl ar wasanaethau i’r cyhoedd, neu sefydliadau gaiff eu cefnogi’n gyhoeddus fel prifysgolion yn gorfod ymgymryd â diswyddiadau pellach.”
Pwysleisia fod neges Plaid Cymru yn “glir”.
Bydd yn rhaid i’r Blaid Lafur “beidio â pharhau â thraddodiad y Torïaid o beidio talu’r hyn sydd yn ddyledus i Gymru”, meddai, ac “osgoi rhoi straen pellach ar ein sefydliadau sector cyhoeddus” os ydyn nhw “o ddifrif” am y newid gafodd ei addo.