Mae Papur Gwyn Lywodraeth Cymru ar Dai Digonol a Rhenti Teg yn “crynhoi yn berffaith y diffyg uchelgais sydd gan y Blaid Lafur”, yn ôl Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.

Wrth siarad â golwg360, dywed Siân Gwenllian, sy’n cynrychioli etholaeth Arfon, “does dim dwywaith” fod yna argyfwng tai yng Nghymru.

“Ac er yr argyfwng, dydi’r Papur Gwyn yma ddim yn mynd hanner ffordd digon pell i drio datrys problemau strwythurol dyrys sydd yna,” meddai.

Dywed ei bod hi’n “anhygoel ei bod wedi cymryd gymaint o amser i gynhyrchu dogfen sydd mor wan”.

“Mae’n brin o’r disgwyliadau gwreiddiol oedd yn y Cytundeb Cydweithio,” meddai, a hithau wedi bod yn un o ddau Aelod Dynodedig Plaid Cymru fu’n rhan o’r Cytundeb hwnnw.

Fe fu Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo sy’n cynnwys yr hawl i dai digonol, ac i bobol Cymru fedru aros yn eu cymunedau.

Beth sydd yn y Papur Gwyn?

Mae’r cynigon sy’n rhan o’r Papur Gwyn yn cynnwys:

  • datblygu deddfwriaeth yn nhymor y Senedd nesaf i osod dyletswydd ar weinidogion Cymru i lunio strategaeth dai i fynd i’r afael â thai digonol, gan gynnwys darpariaethau ar gyfer monitro, adrodd ac adolygu
  • ystyried gosod dyletswydd ar gyrff sector cyhoeddus diffiniedig i roi sylw i’r strategaeth dai wrth gyflawni eu swyddogaethau tai.

Mae’r Papur Gwyn hefyd yn nodi nifer o gynigion sydd â’r nod o wella fforddiadwyedd, ffitrwydd i fod yn gartref, a hygyrchedd yn y Sector Rhentu Preifat, ac mae pob un ohonyn nhw yn agweddau allweddol ar dai digonol.

Mae’r cynigion hefyd wedi cael eu llywio gan ymgynghoriad y Papur Gwyrdd, ddangosodd yn glir fod angen gwella cadernid data rhent fel cam cyntaf i ddeall y cyd-destun lleol yn well a sicrhau bod ymyriadau polisi posibl yn cael eu targedu’n effeithiol yn y dyfodol.

Mae’r cynigion sydd wedi’u nodi yn y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys:

  • cynigion i wella data rhent, gan gynnwys gofyniad ar landlordiaid/ac asiantiaid i ddarparu data rhent i Rhentu Doeth Cymru
  • datblygu map rhent gofodol i ddangos data rhent ardal leol
  • cynigion ar sut i ddangos bod eiddo yn ffit i fod yn gartref
  • cynigion i gefnogi pobol sy’n rhentu sydd ag anifeiliaid anwes
  • canllawiau ynghylch gwarantwyr rhent
  • archwilio’r potensial ar gyfer rhyddhad cyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir (‘TTT’) os yw’r eiddo’n cael ei gofrestru ar Gynllun Lesio Llywodraeth Cymru.

“Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam arwyddocaol arall ymlaen ar ein taith flaengar tuag at ddarparu tai digonol i bawb yng Nghymru,” meddai Jayne Bryant, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Thai Cymru.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â’r ystod eang o fesurau sy’n cwmpasu darparu tai digonol tai.”

“Hawl i gartref digonol” ddim yn y Papur Gwyn 

Yn ôl Siân Gwenllian, mae nifer o elfennau oedd yn rhan o’r ddeddfwriaeth oedd yn cael eu cynllunio yn ystod y Cytundeb Cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

“Mae’r Cytundeb Cydweithio yn nodi bod creu hawl i gartref digonol a chreu tai fforddiadwy i bobol leol yn ganolog i’r ffordd ‘da ni’n mynd ati i ddatrys yr argyfwng tai.”

Yn ôl cynghorau sir ledled Cymru, mae 140,000 o bobol yng Nghymru ar restrau aros am dai cymdeithasol.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu 20,000 o dai cymdeithasol ychwanegol erbyn 2026.

Ond yn ôl adroddiadau ym mis Medi, dydy’r targed ddim wedi’i hanner bwrw, a hynny dair blynedd i mewn i gynllun pum mlynedd.

Dywed Siân Gwenllian fod y “sefyllfa yn debygol o fod lot gwaeth na’r 140,000 o bobol”, gan fod yna “lot o bobol eraill sydd yn byw mewn amgylchiadau sydd ddim yn dderbyniol, mewn tai gorlawn, damp, ac yn y blaen.”

“I’r bobol yna, dydyn nhw ddim yn arwyddo fyny i restrau aros gan eu bod nhw’n gwybod fod yna gymaint o bobol o’u blaen nhw’n barod.”

Dywed mai’r ffordd “i ddechrau datrys y broblem” yw drwy greu’r “hawl i bawb gael cartref digonol”, “ac i wneud hyn mewn ffordd sydd yn symud i ffwrdd o’r farn sydd gan rai pobol sy’n gweld tai fel ased i grynhoi arian”.

Ychwanega fod y dystiolaeth yn dangos bod mynediad i “dai digonol a chlud” yn helpu pobol o safbwynt addysg ac iechyd – rhywbeth fydd yn cael dylanwad ar y meysydd yma sydd wedi bod yn dioddef yn ariannol yn ddiweddar.

“Felly oes, mae yna gost o symud tuag at yr hawl, ond mae yna fuddion ariannol o wneud hyn,” meddai.

“Achos, yn raddol, bydd y pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn lleihau, lefelau mynychu’r ysgol yn gwella, fydd wedyn yn cael effaith dda ar swyddi a gallu pobol i fyw bywyd o ansawdd da.”

Bydd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn para tan Ionawr 31.

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i’w alw’n gartref yn uchelgais allweddol gan y Llywodraeth hon ac mae’r egwyddor bod gan bawb hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei gefnogi’n llwyr,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae ein Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd yn gam pwysig tuag at gyflawni’r uchelgais hwn ac rydym yn awyddus i glywed gan ystod eang o bobl mewn ymateb i’r Papur Gwyn i lywio ein camau nesaf.”