Mae Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, wedi cyhoeddi £1.7bn ychwanegol i Gymru yn ei Chyllideb gyntaf.
Daw’r arian hwn drwy Fformiwla Barnett.
Hon yw Cyllideb gynta’r Blaid Lafur ers 14 o flynyddoedd, a’r gyntaf erioed gan Ganghellor benywaidd.
Ymhlith y prif gyhoeddiadau o safbwynt Cymru roedd y £25m i ddiogelu tomenni glo.
Daeth cadarnhad hefyd o £11.8bn o iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed halogedig, ac £1.8bn i’r gweithwyr post gafwyd yn euog ar gam o dwyll ariannol.
Trethi
Yn ôl y disgwyl, bydd y prif drethi’n cael eu rhewi’r flwyddyn nesaf, sy’n golygu na fydd cynnydd yn y dreth incwm, y Dreth Ar Werth (VAT) nac Yswiriant Gwladol i weithwyr, er y bydd cyfraniad cyflogwyr yn codi o 13.8% i 15%.
Ond bydd y cyflog sy’n cael ei dderbyn cyn i weithwyr orfod gwneud cyfraniad yn gostwng o £9,100 i £5,000.
Bydd fêps yn destun treth o Hydref 2026, a bydd cynnydd o 10% yn y dreth ar dybaco llac, a bydd ceiniog yn cael ei thorri oddi ar bris peint yn y dafarn yn sgil torri’r dreth gan 1.7%.
Bydd y Dreth Enillion Cyfalaf (Capital Gains) yn codi o 10% i 18% ar y gyfradd isaf, ac o 20% i 24% ar y gyfradd uchaf – mae’r dreth hon yn cael ei thalu ar elw o asedau fel buddsoddiadau neu ail gartrefi.
Amaeth a phensiwn glöwyr
Yn sgil y Gyllideb hefyd, fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim bellach yn derbyn arian o gynllun pensiwn glowyr.
O ganlyniad, mae disgwyl i ryw £1.5bn gael ei drosglwyddo i gronfeydd pensiwn tua 112,000 o gyn-lowyr.
Fydd y trothwy treth etifeddiant, sy’n effeithio ar weithwyr yn y byd amaeth, ddim yn newid am ddwy flynedd ychwanegol, sy’n golygu ei ddiogelu tan 2030.
O ganlyniad, fydd dim rhaid talu’r dreth etifeddiant ar £325,000 cyntaf unrhyw ystad, a bydd y swm yn codi i £500,000 os yw’r ystad yn cynnwys cartref sy’n cael ei drosglwyddo i ddisgynyddion.
Yn ogystal, bydd diwygiadau i’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol a Rhyddhad Eiddo Busnes, ac o Ebrill 2026, bydd rhyddhad o hyd ar y £1m cyntaf o asedau busnes ac amaethyddol.
‘Dal i deimlo fel llymder i nifer’
“Bydd y Gyllideb yn dal i deimlo fel llymder i nifer,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Addawodd y Canghellor y byddai’n ‘mynd i’r afael â HS2’, ond methodd â chyflwyno’r biliynau o bunnoedd sy’n ddyledus i Gymru.
“Cadwodd hi doriadau’r Torïaid i les, methodd hi â helpu pensiynwyr i gadw’n gynnes y gaeaf hwn, a methodd hi â dileu’r cap dau blentyn [ar fudd-dal plant].
“Bydd newidiadau trethi’n bwrw busnesau â gweithwyr ar gyflogau is galetaf, gan effeithio ar deuluoedd ledled Cymru.
“A gallai rheolau newydd ar eiddo fferm fygwth ffermydd teuluol sydd wrth galon amaethyddiaeth Cymru.
“Roedd hi’n dda gweld San Steffan, o’r diwedd, yn mynd i’r afael â’r difrod sydd wedi’i adael gan y diwydiant glo – mater mae Plaid Cymru wedi bod yn ei godi ers blynyddoedd.
“Ond heb fuddsoddiad gwirioneddol i greu swyddi lleol, bydd y cymunedau hyn yn parhau i dalu’r pris ar gyfer diwydiant oedd unwaith yn cynhyrchu cyfoeth y Deyrnas Unedig.”
Yr un yw neges y Blaid Werdd.
“Waeth beth mae’r Canghellor yn ei honni, mae’r Gyllideb hon yn golygu y bydd llymder yn parhau i bobol Cymru,” meddai’r arweinydd Anthony Slaughter.
“Pleidleisiodd pobol i wasanaethau cyhoeddus gael eu hadfer, ond dydy Llafur ddim yn gwireddu eu haddewidion am newid.
“Gyda gwasanaethau cyhoeddus ar dorri ar ôl 14 o flynyddoedd o doriadau’r Torïaid, roedd gan Lafur y cyfle heddiw i wyrdroi llymder a rhoi gobaith i bobol.
“Yn hytrach, maen nhw wedi cilio rhag trethu cyfoeth.
“Bydd y gweddill ohonom nawr yn dioddef wrth i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau cyhoeddus barhau mewn argyfwng.”
‘Effaith ddinistriol’
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, bydd y Gyllideb yn cael “effaith ddinistriol” ar Gymru.
“Cafodd y Gyllideb hon ei hadeiladu ar gefn cadw pensiynwyr yn oer y gaeaf hwn, a bydd y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol yn dreth swyddi hynod ddinistriol i economi Cymru, sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ar ôl degawdau o reolaeth Llafur,” meddai’r arweinydd Andrew RT Davies.
“Does neb yn synnu bod Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig wedi torri rhyddhad cyfraddau busnes, fel maen nhw wedi’i wneud yng Nghymru, gan brofi ymhellach fod record ofnadwy Llywodraeth Cymru’n lasbrint ar gyfer plaid Keir Starmer.
“Ac yn union fel mae eu hymosodiad ar gymunedau gwledig Cymru’n ei wneud, bellach mae newidiadau Llafur i reolau’r dreth etifeddiant mewn perygl o nodi diwedd y fferm deuluol.”
Ychwanega fod “diffyg arian ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol yn bryderus”, ac mae Peter Fox, llefarydd cyllid y blaid yn y Senedd, yn dweud nad yw’r Gyllideb “yn ddim byd mwy na chipio arian gan wleidyddion Llafur sy’n hoffi dim byd yn fwy na gwario arian pobol eraill”.
‘Diffyg gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru’
Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae “diffyg gweledigaeth uchelgeisiol i Gymru” yn y Gyllideb i “nodi buddsoddiad hirdymor yn ei dyfodol”.
“Mae’n cosbi busnesau bach, ac mi fydd yn drychineb i deuluoedd fferm,” meddai David Chadwick, dirprwy arweinydd y blaid.
“Mae Llafur wedi methu â chyflwyno’r biliynau o bunnoedd sy’n ddyledus o HS2, ond eto mae etholwyr fel fy rhai i yn wynebu toriadau mawr i’w gwasanaethau rheilffordd.
“Yn y cyfamser, mae’r Canghellor wedi dewis cynyddu trethi ar fusnesau bach sy’n rhoi bywyd i economi Cymru, yn hytrach na thargedu elw enfawr y banciau a chewri olew, nwy a thechnoleg.
“Mae Treth Ffermydd Teuluol y Canghellor mewn perygl o fod yn ergyd farwol i ffermwyr lleol sydd eisoes wedi wynebu bygythiadau i’w bywoliaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi dangos drosodd a throsodd nad oes ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth o’r economi wledig na’r gwaith sy’n digwydd er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd fwyd ar eu platiau.”
Croesawu’r Gyllideb
Er gwaethaf beirniadaeth y gwrthbleidiau, mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r Gyllideb, gan ddweud bod y trafodaethau â’r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd “wedi bod fel cerdded drwy’r baw”.
“Mae ymgysylltu’n ystyrlon â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y broses hon yn dangos unwaith eto fod y Llywodraeth hon yn y Deyrnas Unedig yn parchu datganoli, a’n dwy lywodraeth yn cydweithio i weithredu er lles pobol Cymru.
“Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn y Gyllideb hon, ond mae Rachel Reeves wedi amlinellu ei chynllun i drwsio seiliau’r economi ac edrych tua’r dyfodol.”