Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa perchnogion cŵn “anghyfrifol” bod peidio â chodi baw eu hanifeiliaid mewn mannau cyhoeddus yn drosedd.
Rhwng Rhagfyr y llynedd a Medi eleni, rhoddodd y Cyngor 33 Hysbysiad Cosb Benodedig i bobol am ganiatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus.
Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.
Dirwy a chosb
Mae Cyngor Gwynedd yn dadlau bod gadael i gŵn faeddu yn wrthgymdeithasol, ac yn aml yn effeithio ar iechyd a lles y gymuned.
Mewn achosion prin, gall dod i gyswllt â baw ci arwain at docsocariasis, cyflwr poenus sy’n medru achosi dallineb a phroblemau anadlu.
Mae’r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, sy’n manylu ar sut y dylai perchnogion reoli eu cŵn, wedi bod ar waith yng Ngwynedd ers 2013.
Mae’r Gorchymyn yn gwahardd perchnogion rhag dod â chŵn i mewn i ardaloedd penodedig, megis parciau chwarae i blant, tir ysgol, caeau chwaraeon, a rhai traethau.
Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 hefyd yn rhoi’r hawl i’r Cyngor erlyn unrhyw un sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid mewn ffordd gyfrifol.
O ganlyniad, gall troseddwyr wynebu dirwy o £100 yn y fan a’r lle, neu gael eu herlyn yn y llys a derbyn cosb o hyd at £1,000.
‘Perchnogaeth gyfrifol’
Dywed Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy y Cyngor, fod cŵn yn baeddu ar dir cyhoeddus yn gŵyn gyffredin, a bod y broblem yn waeth yn y gaeaf.
“Yma yng Ngwynedd, mae gennym gymaint o lefydd braf i fynd am dro, ond mae’n brofiad annymunol iawn sylweddoli eich bod wedi sefyll mewn baw ci ar eich taith, a’i gario i’r car, neu’r cartref,” meddai.
“Rydym wedi clywed hanesion gan deuluoedd sydd wedi canfod baw ci ar olwynion coets babi neu ar olwynion sgwters plant.
“Dydi’r ffaith ei bod yn dywyll neu’n lawog ddim yn esgus dros beidio stopio a phigo’r baw i fyny.
“Helpwch ni i ledaenu’r neges am bwysigrwydd perchnogaeth cŵn gyfrifol a chydwybodol yr hydref a’r gaeaf hwn.”
Cyngor i berchnogion
Yn hytrach na gadael baw eu hanifeiliaid mewn mannau cyhoeddus, mae disgwyl i berchnogion ei godi, a’i roi mewn biniau pwrpasol i ddal baw cŵn, mewn biniau stryd cyhoeddus, neu mewn bin olwyn gwyrdd yn y cartref.
Mae’r Cyngor yn darparu bagiau i ddal y baw yn rhad ac am ddim i drigolion ym mhob un o lyfrgelloedd y sir.
Mae’r Cyngor hefyd yn gofyn i’r cyhoedd rannu unrhyw wybodaeth am bobol yn caniatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus gyda nhw’n gyfrinachol.
Bydd hyn yn galluogi Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd i ymchwilio i’r mater.