Mae baw ci wedi bod yn broblem “ddifrifol” yn ardal Tregarth a Mynydd Llandygai yn ddiweddar, meddai’r cynghorydd sir lleol.

Yn ddiweddar, mae Beca Roberts wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â’r broblem drwy osod posteri baw ci a bagiau mewn mannau cyhoeddus.

Os nad yw’r broblem yn cael ei datrys yn fuan, bydd rhaid cymryd camau pellach drwy fynd â bagiau baw cŵn i ysgolion, meddai.

Effaith ar y gymuned

‘Gwnewch y pethau bychain’ meddai Dewi Sant, ac mae’r hyn yn wir am y broblem ddifrifol o faw cŵn, yn ôl Beca Roberts, cynghorydd Plaid Cymru Tregarth a Mynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd.

“Mae’n bwysig pigo baw ci fyny a’i roi yn y biniau baw ci, nid gadael y bag allan ar y lon,” meddai Beca Roberts cynghorydd Tregarth a Mynydd Llandygai wrth golwg360.

“Mae pobol yn hoffi rhoi’r bagiau ar frigau coed ac yn y blaen.

“Mae’n rhan o barchu cymuned, mae eisiau bod yn falch o’ch cartref ac edrych ar ei ôl.

“Os ydy pobol eisiau cŵn mae rhaid iddyn nhw feddwl yn ofalus am yr holl agwedd o edrych ar ei ôl.”

Y Cynghorydd Beca Roberts

Gweithredu ar frys

Cafodd Beca Roberts ymateb positif ar y cyfryngau cymdeithasol i’r camau mae hi wedi’u cymryd i ddatrys y broblem.

“Dw i wedi bod allan efo posteri baw ci Cyngor Gwynedd, ond efo’r posteri dw i wedi bod yn rhoi’r biniau a’r bagiau baw ci,” meddai.

“Rydyn ni’n gallu rhoi’r rheini am ddim i bobol.

“Cymerwch fag, cymerwch y dispensers i gyd os oes rhaid, a dechreuwch bigo baw ci fyny.

“Hwn yw’r cam cyntaf a chawn weld os geith effaith.” 

Hydera Beca Roberts y bydd y bobol ifanc yn cymryd cyfrifoldeb pe bai’n mynd i ysgolion lleol gyda dispensers a bagiau baw ci i blant efo cŵn fynd adref efo nhw.

Problem yn Nyffryn Ogwen

Mae baw ci yn broblem ar draws Dyffryn Ogwen, tybia Beca Roberts, sy’n dweud ei fod yn “broblem fawr” ar Lôn Las Ogwen ac ar y brif lôn drwy Dregarth yn enwedig.

“O beth dw i’n ddeall mae’n mynd trwy ebs and waves, ar y funud rydyn ni mewn amser ble mae’n broblem fawr.

“Mae pobol yn teimlo’n angerddol amdano fo oherwydd mae’n rhywbeth gweledol iawn yn eich cymuned chi.

“I lawer o bobol mae’n teimlo fel amarch.

“Os dwyt ti ddim yn pigo dy faw ci fyny ti ddim yn parchu dy gymuned.

“Mae llawer o bobol efo baw ci reit tu allan i dŷ nhw ac mae hynny’n ofnadwy.

“Mae pobol efo plant sy’n gallu rhedeg allan a sefyll yn y baw ci.

“Mae’n rhywbeth mae pobol yn poeni am ar y funud yn sicr.”